Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

atom er mwyn ein teimladau; yr ydych yn clwyfo ein teimladau yn ddwys, nid yn unig drwy ein gwrthwynebu, ond hefyd drwy ein gadael ein hunain ar y maes, attal eich cynnorthwy, eich cyngor, a'ch cymdeithas yn y gwaith hwn. Ni all fod yfed y diodydd meddwol yn fater cydwybod genych chwi, y mae peidio yfed yn fater cydwybod genym ni. Gellwch chwi roddi heibio y ddiod er mwyn ein teimladau ni, heb dramgwyddo eich cydwybodau; ond ni allwn ni ymwrthod â dirwest heb dramgwyddo a halogi ein cydwybodau. 'Wel ïe,' medd gwrthddadleuwr, eich gwendid chwi yw hyny.' Caniataer hyny, a 'rwystrwch chwi y brawd gwan, dros yr hwn y bu Crist farw? A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a churo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist.' Ha! y mae tramgwyddo, a rhwystro, a churo gwan gydwybod brawd gwan dros yr hwn y bu Crist farw, yn beth na fynai rhai o honom mo'i wneyd er llawer iawn o elw, heb son am bechu yn erbyn Crist." Rhoddais yr ymadroddion uchod o'i eiddo i lawr yn y lle hwn, yn unig fel eglurhad o'r hyn a chwennychwn ei ddangos yma: sef un o deithi prydferth meddwl y dyn mawr hwn—un o'r pethau oedd yn ei gyfansoddi yn wir fawr, sef ei dynerwch neillduol o deimladau ereill, ac yn neillduol dynion y credai ef eu bod yn ddynion duwiol.

4. Un arall o elfenau y dyn a'r Cristion hwn, ydoedd ei ffyddlondeb a'i onestrwydd diffuant. Er mor dyner o deimladau oedd ei hun, ac er cymmaint oedd ei dynerwch a'i ofal am deimladau ereill, pell iawn ydoedd ei nodwedd oddiwrth feddalwch gwlanenaidd; cyd-dymherasid ei addfwynder a'i hynawsedd â gonestrwydd a gwrolfrydigrwydd meddwl. Ni phetrusai geryddu yn llym iawn, pan farnai yn gydwybodol fod achos yn galw am hyny. Ffieiddiai weniaith a derbyn wyneb o'i galon, a chredať na chafodd neb erioed y sail leiaf i ddwyn y cyfryw gyhuddiad i'w erbyn, ac nid wyf yn gwybod ddarfod i neb gynnyg gwneyd hyny chwaith. Casaai ffalsedd mewn gweinidogion, ac yn y weinidogaeth, â chas cyflawn. Nid allai aros gwrando y pregethwyr hyny a ymddangosent eu bod yn gofalu mwy am foddio a difyru eu gwrandawyr, nag am eu hargyhoeddi, eu goleuo, eu dychwelyd, a'u hadeiladu; ac nid oedd dim, o'r tu arall, a'i boddhäai yn fwy nâ chlywed geiriau gwirionedd a sobrwydd yn cael eu traethu yn eu syml-noethedd priodol eu hunain. Dywedai "fod yr areithfa yn lle rhy ofnadwy i wenieithio