Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddi, a bod eneidiau yn rhy werthfawr i ffalsio iddynt." Cof genyf ei glywed yn dywedyd fwy nag unwaith, yn ei briod—ddull arferol ei hun, "Y mae dosbarth o bregethwyr ag y mae yn ymddangos i mi that their chief aim is to please sinners, and not to convert them: y mae yn fater dychrynllyd."

Mor fawr oedd ei gariad at gywirdeb a gonestrwydd, fel os unwaith y caffai le cyfiawn i amheu cywirdeb egwyddor unrhyw berson, neu weled tuedd wenieithgar a maleisus ynddo, anhawdd iawn fyddai i'r cyfryw ennill cymmeradwyaeth ei feddwl drachefn. Ni fynwn ddywedyd ei fod bob amser yn hollol yn ei le o ran ei farn am bersonau; yr wyf yn sicr ei fod yn hollol gydwybodol; y cwbl yn mron a ddywedai fyddai, "I can feel no respect for the man, I am sorry for it;" oblegid ymddengys i mi mai dyn diegwyddor, gwenieithus, ac annheilwng o ymddiried ydyw ef." Byddai yn dueddol iawn i gymmysgu Cymraeg a Saesonaeg yn ei ymddyddanion cyffredinol a chyfrinachol. Y tro diweddaf y bu yn pregethu yn W——ch, cafodd gyfle i ymddyddan yn bersonol â hen wrandawr o'r ardal hòno, yr hwn a fuasai yn proffesu crefydd gynt. Yr oedd efe yn dra adnabyddus ag ef er ys llawer o flynyddau, ac yr oedd ganddo deimlad dwys drosto. Dywedodd wrtho, os nad ymadawai â'i ddiod feddwawl, a dyfod yn Ddirwestwr, y byddai mor sicr o fod yn golledig â bod ei enw yn ——; ond os byddai iddo ymwrthod â'r ddiod, y byddai ganddo ryw obaith o'i gyfarfod yn y nefoedd: "Yr ydych wedi cynnyg gyda chrefydd fwy nag unwaith o'r blaen, (meddai,) a hi a'ch maglodd bob tro, ac y mae ei dylanwad arnoch yn myned yn gryfach-gryfach o hyd, a myned gryfach-gryfach a wna bob dydd tra yr ymarferoch â hi." Gwelais ef drannoeth, ac adroddai yr hanes wrthyf, gan ychwanegu, "Yr wyf yn teimlo fy meddwl wedi cael esmwythâd ar ol ymddyddan ag ef; yr oeddwn yn ofni na buaswn yn ddigon ffyddlon a gonest tuag ato; y mae fy meddwl yn rhedeg yn aml at lawer o hen wrandawyr draw ac yma, y rhai y byddai yn dda genyf gael cyfle i ymddyddan yn bersonol â hwynt cyn fy marw; yr wyf yn teimlo yn euog na buaswn yn tori atynt pan y byddwn yn eu tai, lawer o honynt." Ychydig ddyddiau cyn ei farw, pan oeddwn i ac amryw frodyr yn ymweled ag ef, ac yn ein mysg gweinidog y lle yr arferai y gwr y cyfeiriwyd ato wrando ynddo, gofynodd "Pa drefn sydd ar hwn a hwn yn bresennol?" "Wedi myned yn ei ol i'r un pwll," neu eiriau