Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erioed parotach i fyned oddicartref pan fyddai rhyw amgylchiad perthynol i achos Crist yn gofyn am hyny. Nid oedd nemawr addoldy perthynol i'r Annibynwyr mewn tref na phentref yn swydd Fflint a Dinbych, na byddai ef naill ai dan ryw ran o'r baich mewn ymrwymiad, neu na chostiai lafur a gofal iddo mewn rhyw ffordd neu gilydd. Llawer a deithiodd trwy Ogledd a Deau Cymru a Lloegr hefyd, ar bob tymhor a thywydd, i ddadleu achosion eglwysi gweiniaid a thlodion, er eu rhyddhau odditan feichiau trymion dyledion eu haddoldai, pan y gallasai fod yn esmwyth a diofal arno ar ei aelwyd gysurus, ac yn nghanol ei deulu dedwydd gartref. Ac nid siarad drostynt yn unig a wnai, ond efe bob amser a roddai ei law gyntaf a dyfnaf yn ei logell, er cyfranu tuag at eu cynnorthwyo. Llafuriodd lawer yn achos yr Undeb Cyffredinol, er talu dyledion yr addoldai, a sefydlwyd yn y fl. 1834, drwy deithio drwy amrywiol siroedd i annog a deffroi yr eglwysi yn yr achos. Bu yn y brifddinas hefyd gyda'i frodyr, Morgan, Machynlleth; Jones, Abertawy; Saunders, yn awr o Aberystwyth, yn casglu tuag ato; a chyfranodd gyda hyny y swm o ddeg punt a deugain ei hunan at yr achos. Felly y byddai gyda golwg ar bob achos teilwng a da: yr oedd ysbryd hunan-geisiol a chybyddlyd yn beth na wyddai ef ddim am dano, ond yn unig mewn teimlad o ffieiddiad tuag ato. Byddai yn barod bob amser i fenthyca gwasanaeth ei dalentau i unrhyw enwad o Gristionogion a geisient hyny ganddo. Yn ddadleuydd grymus ac effeithiol dros bob achos, cymdeithas, a sefydliad, er goleuo a diwygio y byd mewn gair, yr oedd "yn bob peth i bawb," heb fod yn ddim iddo ei hun. Ni thybia un darllenydd a ŵyr am dano, (a pha ddarllenydd na ŵyr,) fy mod yn dywedyd gormod wrth ddywedyd fel hyn: Yr oedd ei fywyd yn aberth cyssegredig i wasanaeth y ffydd; ymdrechai yn mhob modd i "adael y byd yn well (fel y dywedai) pan elwid ef o hono, nag yr oedd pan y danfonwyd ef iddo;" ac, o ganlyniad, yr oedd colli WILLIAMS yn golled, nid i ryw eglwys neu eglwysi neillduol—nid i un enwad o Gristionogion yn unig—ac nid i un wlad bennodol, ond i'r eglwys fawr gyffredinol, ac i'r byd mawr cyffredinol, fel y sylwai gweinidog o enwad arall, pan dderbyniai y newydd o'i farwolaeth.[1]

  1. Y Parch, Thomas Aubrey.