Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

7. Yr oedd yn wr cadarn nerthol mewn gweddi. Yma yn ddiamheu yr oedd "cuddiad cryfder" ei weinidogaeth. Dywedai y Parch. M. Jones, o Lanuwchllyn, am dano, yn ei gyfarchiad ar ddiwrnod ei gladdedigaeth, y byddai bob amser pan yn ei gyfrinach, yn cael ei daro â'r ystyriaeth hon am dano, sef ei fod yn un ag oedd yn arfer dal llawer o gyfrinach â'i "Dad yr hwn sydd yn y dirgel." Mewn cyfrinach gyda'i frodyr, mewn cyfarfod neu gymmanfa, byddai bob amser yn ymdrechgar iawn i fagu ynddynt yr ysbryd hwn: arferai ddywedyd "ei fod yn meddwl nad oedd ein hen dadau yn llawer amgen pregethwyr nâ ninnau yn yr oes hon, a'u bod yn mhell yn ol at eu gilydd, mewn llawer o bethau, ond yr oedd rhyw eneinniad ar weinidogaeth llawer o honynt, a llwyddiant yn ei dilyn, na welir 'mo hono ond anfynych yn bresennol; a pha beth yw y rheswm am hyn? Yr oeddynt yn well gweddiwyr, dyna'r paham. Os mynwn lwyddo a gorchfygu gyda dynion, rhaid i ni lwyddo a gorchfygu gyda Duw yn gyntaf. Ar ei liniau yr aeth Jacob yn dywysog; ac os mynwn ninnau fyned yn dywysogion, rhaid fod yn amlach ac yn daerach ar ein gliniau." Hoffai adrodd hanesyn am y diweddar Barch. J. Griffiths, o Gaernarfon, yn fynych. 'Clywais," meddai, "am Mr. Griffiths, ei fod i bregethu mewn tŷ annedd un noson, ac iddo ddeisyfu cael myned ar ei ben ei hun i ystafell cyn dechreu y cyfarfod; arosodd yno nes y daeth y bobl ynghyd, ac iddi fyned ryw gymmaint dros yr amser pennodol i ddechreu; wrth ei weled yn oedi felly, anfonai gwr y tŷ y forwyn ato i ofyn iddo ddyfod at ei waith; yr hon, pan ddaeth at ddrws yr ystafell, a glywai ymddyddan lled ddystaw, rhwng dau â'u gilydd, fel y tybiai hi; safodd wrth y drws i wrando, a chlywai un yn dywedyd wrth y llall, 'Nid af oni ddeui gyda mi, nid af oni ddeui gyda mi.' Dychwelodd yn ol at ei meistr, a dywedai, Y mae rhywun gyda Mr. Griffiths, ac y mae yn dywedyd wrth hwnw na ddaw ef ddim os na ddaw yntau gydag ef, ac ni chlywais i y llall yn dywedyd un gair wrtho, felly nid wyf fi yn meddwl y daw oddiacw heno.' 'O daw, daw,' ebe ei meistr, ac fe ddaw y llall gydag ef, mi warantaf, os ydyw wedi myned felly; ni a ganwn ac a ddarllenwn i aros y ddau.' Daeth Mr. Griffiths, a daeth y llall gydag ef' hefyd, a chafwyd rhyw oedfa anghyffredinol iawn y noson hòno: bu yn ddechreuad diwygiad nerthol iawn yn yr ardal; dychwelwyd llawer o eneidiau at Dduw dan y bregeth, a bydd ei hol ar yr ardal hyd ddiwedd