Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser. Nid oes dim, frodyr, ond eisieu ein cael i'r un ysbryd a theimlad na byddai ein gweinidogaeth ninnau yr un mor nerthol i achub a dychwelyd." Yn ei ymweliadau â'r eglwysi, byddai bob anser yn y cyfrinachau neillduol, yn benaf dim, yn eu hannog i fagu ysbryd gweddi dros eu gilydd, a thros lwyddiant teyrnas Crist. "Gweddiwch dros eich gilydd," meddai, "yna ni ellwch ddrygu na chasâu eich gilydd—ni ellwch beidio caru eich gilydd, os byddwch yn gweddio. y naill dros y llall—daw gweddio yn hawdd, yn naturiol, ac yn bleserus wrth arfer gweddi—Minnau a arferaf weddi,' medd y Salmydd. Darllenais am wraig dduwiol yn America ag oedd wedi ymarfer cymmaint a gweddio, nes oedd gweddio wedi myned mor naturiol iddi ag anadlu. Yr oedd yn breuddwydio gweddio yn ei chwsg y nos; a fuoch chwi erioed yn breuddwydio gweddio?" Arferai alw gweddi yn "brif beiriant achub" o du yr eglwys. "Ni all pob Cristion fod yn bregethwr, yn swyddwr yn yr eglwys, yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, ond gall pob un weddio; gall yr hen wraig gynnorthwyo gyda'r peiriant hwn. Peiriant ydyw y gall yr holl eglwys roddi ei hysgwyddau a'i holl nerth wrtho. Yr oedd yr eglwys apostolaidd yn deall nerth ac effeithiolaeth gweddi—yr oeddynt hwy oll yn gytun yn parhau mewn gweddi,' a'r weddi gytun hòno a rwygodd y cwmwl, ac a dỳnodd y tywalltiad mawr am eu penau.'

Byddai ei glywed ef yn gweddio mewn teulu, neu mewn addoliad cyhoeddus, yn argraffu ar bob meddwl mai un cydnabyddus iawn â'r gwaith ydoedd yn y dirgel. Y fath symledd plentynaidd a diaddurn yn gwisgo ei ddull a'i eiriau, y fath amlygiad o deimlad iselfrydig a hunan-ymwadol, a'r fath ystwythdra a meddalwch ysbryd, ag a barai i bawb presennol edrych arno fel plentyn bychan yn dadleu ei gwyn wrth draed tad caruaidd. Byddai ysbryd gweddi yn sicr o gael ei adfywio a'i ennyn yn mynwes pob gweddiwr a fyddai yn y lle.

Yn haf y flwyddyn 1838, cymmerodd daith drwy ran of Ogledd Cymru er mwyn ei iechyd—nid oedd yn alluog i bregethu—dychwelodd adref trwy Ddinbych; ac adroddai wrthyf yn llon-ddifyr hanes ei daith. "Treuliais y Sabboth cyntaf," meddai, "yn nhŷ fy hen gyfaill Mr. Timins, gerllaw Bangor. Bûm yn y capel y boreu, aethum allan wedi ciniaw i làn Menai, a rhodiais ychydig dan gysgod coedydd cauadfrig: y lle hyfrytaf i fyfyrio a gweddio a welais erioed; ac