Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr wyf yn meddwl y bydd yn hoff genyf i dragywyddoldeb am y llanerch hòno—yr oedd yn radd o nefoedd arnaf yno." Ond er mor fawr oedd mewn ysbryd gweddi, cyhuddai ei hun yn drwm am ei esgeulusdra gormodol o'i ddyledswydd yn fynych yn ei gystudd diweddaf. "O!" meddai unwaith, "yr wyf wedi treulio bywyd diweddi mewn cymhariaeth i'r peth a ddylasai fod; yma y collais hi fwyaf o unman. Yr wyf yn meddwl, os gwellhâf o'r cystudd hwn, y pregethaf yn well nag y darfu'm erioed, ond beth bynag am hyny, yr wyf yn penderfynu gweddïo yn well, yn amlach, ac yn daerach.' Gwellhaodd i raddau am dymhor byr wedi hyn, a thalodd ei addunedau yn ffyddlawn.

8. Yr oedd ei amynedd a'i ddyoddefgarwch dan groesau a chystuddiau yn dra hynod. Treuliodd tuag ugain mlynedd o'i fywyd gweinidogaethol yn y mwynhad o'r cysuron teuluaidd puraf a brofodd nemawr un. Yr oedd ei briod a'i blant yn ffynnonellau hapusrwydd iddo; ond wedi bod o'r haul yn hir dywynu ar ei babell, cyfnewidiodd yr hin: syrthiodd Mrs. Williams yn aberth i'r darfodedigaeth, yr hyn a roddodd archoll trwm i'w deimladau; ynddi hi collodd ymgeledd gymhwys, cynghorydd ddoeth, cydymdeimlydd ddiffuant, a chynnorthwyydd alluog iddo mewn llawer o bethau—un ag oedd feddiannol ar yr un ysbryd haelfrydig, ëang, a chyhoeddus ag yntau, fel y nodwyd o'r blaen. Symudodd yn fuan wedi hyny i Lynlleifiad, fel y dangoswyd eisioes: yma drachefn yr oedd "drygfyd yn ei dŷ:" cymmerwyd ei ferch hynaf yn sal gan anwyd trwm, yr hwn a derfynodd yn ddarfodedigaeth a marwolaeth; yr hwn a achlysurwyd drwy orfod codi ganol nos ar adeg y dymestl fawr, y 5ed o Ionawr, 1838, pan y syrthiodd cornfwg y tŷ i mewn trwy y tô i'r llofft. Yr oedd efe ei hun yn wael iawn er ys amryw fisoedd yn flaenorol: ni bu hithau ddiwrnod yn iach wedi hyny, ond gwaelodd a nychodd hyd ei marwolaeth. Yn holl ystod ei gystudd ei hun a'i anwyl blentyn, ni chlybuwyd unwaith gymmaint ag un gair o achwyniad oddiwrtho. Cadwai ei dymher, ac hyd y nod ei sirioldeb arferol dan yr holl dywydd. "Yr wyf yn gadael Eliza yn llaw yr Arglwydd," meddai, mae mewn llaw ddiogel a da, yn llaw Tad tynerach nâ fi; ac am danaf fy hun, yr unig beth sydd yn peri i mi ddymuno cael byw ychydig ydyw, i edrych a allaf bregethu Crist yn well nag y darfu i mi." Ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth hi, oddeutu mis cyn ei farwolaeth yntau, yr oeddwn wedi myned i ymweled ag ef: