yr oedd fyth yn yr un dymher dawel a siriol, yn ymddyddan mor belled ag y caniatâi ei wendid a'i beswch iddo, am ei hoff destun, diwygiadau crefyddol. Pan ofynwyd iddo pa fodd yr oedd Miss Williams, atebai, "Meddyliwn ei bod yn y porth, yr wyf yn dysgwyl clywed y newydd am ei mynediad trwodd gyda phob cenad a ddel o'r llofft—yn ymyl cartref— y mae hi a minnau fel am y cyntaf, ond yr wyf yn meddwl yn awr mai hi a gaiff y blaen.' Mor wir geiriau y proffwyd, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot."
9. Yr ydym bellach yn dyfod at y gamp uchaf yn ei fywgraffiad, sef i geisio gwneuthur portreiad o'i nodwedd fel pregethwr, oblegid mai yr hyn a ddywedir am dano dan y pen hwn, yn ddiau, a fydd yn brif destun beirniadaeth. Nid ydys yn dysgwyl y gellir boddloni pawb, ond ymdrechir i wneuthur cyfiawnder hyd y mae yn alluadwy â'r gwrthddrych hyglod, heb ddysgwyl canmoliaeth ar un llaw, nac ofni difriaeth ar y llaw arall. Dywed fy nghyfaill, Mr. D. Hughes, o St. Sior, mewn llythyr ataf, mewn perthynas i'r rhan yma o'r gwaith, fel hyn Ystyriwyf y gwaith o dynu darlun o'r hen seraph WILLIAMS, o'r Wern,—y fath ag y gellir dywedyd am dano wrth yr oes a ddel, Un fel yna yn gymhwys oedd efe,' yn orchest-gamp fawr.
"Yr oedd cymmaint o unigoledd a hynodrwydd yn perthyn iddo, o ran dullwedd ei feddwl, tarawiad ei ddawn, ac eglurder ei amgyffredion, fel y gofynid gradd helaeth o chwaeth athrylithaidd i adnabod ei gywir nodwedd, ond y mae yn llawer anhaws darlunio nag adnabod unrhyw wrthddrych.
Y mae yn deilwng i bawb gael tynu ei ddarlun yn ei ddillad goreu, felly yntau yn ddiau. Ymddangosai yn hynod, ïe, yn dra rhagorol brydferth, pe byddai yn bosibl ei gywir bortreiadu ar foreu cymmanfa, fel ei gwelwyd lawer gwaith, wedi esgyn y Rostrum o flaen rhai miloedd o wrandawyr, yn traethu ar ryw favourite topic, megys Mawredd, Trugaredd, Cariad, neu Amynedd Duw, &c., pan y byddai ei olwg, ei lais, ei loywon ddrychfeddyliau, ynghyd â mawredd y testun, wedi caethiwo pob meddwl trwy yr holl dorf, nes berwi y teimladau, gwlychu pob grudd â dagrau, a llanw pob mynwes â syndod. Byddai picture yr hen WILLIAMS, ar ddydd cymmanfa, yn ogoniant i'r wlad a'i magodd, yn hyfrydwch i filoedd a'i clywodd, ac yn glod i'r darluniedydd."
Bu codiad WILLIAMS i'r weinidogaeth yn ddechreuad era