newydd, ac yn gyfnewidiad ar ei thôn a'i nhodwedd yn mysg yr Annibynwyr yn Nghymru, yn neillduol yn y Gogledd. Gallai mai nid anghywir iawn oedd y desgrifiad a rydd y diweddar fardd, Thomas o'r Nant, o ansawdd gyffredinol y weinidogaeth yn mhlith yr enwad hwn y pryd hwnw,—
"Nid oedd dim i'w ddywedyd,
Ond ei bod yn lled sychlyd."
Diau fod y Parchedigion George a Jenkin Lewis; Jones, Pwllheli; Griffiths o Gaernarfon; a Roberts o Lanbrynmair, yn wyr cedyrn nerthol yn yr ysgrythyrau, ac yn wyr o ddysg a synwyr mawr, ac yn bregethwyr grymus hefyd; Hughes o'r Dinas; a Pugh o'r Brithdir, hefyd oeddynt o ddoniau gwlithog a melusion; ond ni chyfododd yr un o honynt i ragoriaeth a hynodrwydd cyffredinol: yr oeddynt yn ser gloywon a dysglaer yn eu dydd: ond nid oeddynt wedi eu cynnysgaeddu â'r talentau anghenrheidiol i ddeffroi ystyriaeth, a thynu sylw gwlad o ddynion. Daeth WILLIAMS allan fel comet danllyd a llosgyrnog, ymddangosiad yr hon a dyn sylw pawb oddiwrth y ser sefydlog a frithant yr ëangder o'i deutu yn hollol ati ei hun; ei ffurf gwahanol, ei hagwedd anghyffredinol, cyflymder ei hysgogiad, nerth ei goleuni, ac anarferoldeb ymddangosiad y fath seren, a ennyna gywreinrwydd cyffredinol, nes y cyfyd pawb allan o'u tai mewn awydd i'w gweled, a niliynau o lygaid a gyd-syllant ar y parth hwnw o'r ffurfafen ag y bydd hi yn cymmeryd ei gyrfa drwyddo. Cyffelyb ydoedd yntau yn nechreuad ei yrfa weinidogaethol : tanbeidrwydd ei araethyddiaeth, cyflawnder ac ystwythder ei ddoniau, bywiogrwydd ei ddychymmyg, gwreiddiolder ei ddrych-feddyliau, a'i hyawdledd yn eu traddodi, a roddent adenydd megys i'w enw, ac a drosglwyddent y son am dano o'i flaen i laweroedd o fanau ag yr oedd efe ei hun yn bersonol yn hollol anadnabyddus ynddynt; fel i ba le bynag y deuai, byddai tyrfaoedd yn ymgynnull mewn awyddfryd mawr am ei glywed.
Yr oedd yn mlynyddau boreu ei weinidogaeth, yn danllyd a gwresog iawn o ran ei ddull yn traddodi, yn gollwng y ffrwyn i'w ddychymmyg a'i deimladau, braidd yn ormodol fe allai, o leiaf, felly y barnai efe ei hun, yn mlynyddau diweddaf ei oes. Addefai yn fynych ei rwymedigaeth i'w hen gyfaill a'i dad yn y weinidogaeth, y diweddar Barch. J. Roberts o Lanbrynmair, am lawer o addysg a hyfforddiant a gawsai ganddo, yn gystal tuag at weddeiddio a chymhedroli ei ddull yn tradd-