odi yn yr areithfa, a thuag at "ddysgu ffordd Duw yn fanylach" iddo.
Soniai yn fynych yn mlynyddau diweddaf ei oes am dymmor blaenaf ei weinidogaeth; ond bob amser gyda gostyngeiddrwydd, a hunan-ymwadiad mawr. "Yr oeddwn wedi llyncu uchel-Galfiniaeth," meddai "yn raw, heb gymmeryd amser i'w chwilio, na meddwl yn wir bod angen gwneyd, oblegid tybiwn mai rhaid oedd ei bod yn ei lle; pregethwn hi gydag anffaeledigrwydd mawr, a cheisiwn gyssoni pethau â'u gilydd, a meddyliwn fy mod yn gwneuthur gwaith llyfn iawn arni, ond teimlwn fy ngwendid weithiau er hyny, a gobeithiwn na byddai y bobl yn ei weled." Dro arall, dywedai, "Bum yn ddiweddar yn edrych dros yr hen bregethau o bump i naw mlynedd ar hugain yn ol. Ah! ni thalant ond ychydig, y mae sawyr trwm uchel-Galfiniaeth arnynt; yr wyf yn ofni eu bod wedi gwneyd llawer o ddrwg, ond yr oedd gennyf ryw amcan erioed o dori at y bobl a'u deffroi, ond yn aml byddai y naill ran o'r bregeth yn milwrio yn erbyn y llall, ac felly, byddai yn debycach i ladd ei hun, nâ lladd y pechadur."
Cymhedrolodd ei olygiadau ar yr athrawiaeth, a'i ddull areithyddol yn traddodi gyda'u gilydd, fe ymddengys. Yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd, yr oedd yn gryn wahanol o ran ansawdd ei bregethau a'r ffurf o'u traddodi, ond yr oedd yr hyawdledd a'r effeithiolaeth o hyd yn aros, ac yn hytrach yn cynnyddu. O'r blaen yr oedd o ran ei ddull yn gyffelyb i ruthr o wlaw taranau yn peri llifeiriant chwyddedig a ddylifa ac a ysguba bob peth o'i flaen a safai ar ei ffordd; tra yr ireiddia ac y tymhera y ddaear yn hyfryd er peri iddi dyfu a ffrwytho; ond yn awr, yr oedd ei weinidog· aeth a'i ddull yn debycach i ddisgyniad gwlith tyner, ac ambell gawod o glaear wlaw cymhedrol, bob yn ail â hauldes cynhesol yn saethu rhwng ochrau y cymylau dyfriog, nes y byddo holl lysiau, blodau, glaswellt, a hadau y ddaear yn cyd-lawenychu, ac yn cyd-yfu dan y dylanwad bendithiol.
Yr wyf yn gostyngedig farnu, mai tri chedyrn cyntaf gweinidogaeth eu hoes yn Nghymru, oeddynt Charles o Gaerfyrddin; Christmas Evans o Fon; a Williams o'r Wern. Am y cyntaf, sef Mr. Charles, ychydig mewn cydmariaeth oeddynt alluog i'w werthfawrogi yn ol ei wir deilyngdod; nid cymmaint o dân oedd yn ei areithyddiaeth un amser; yn nerth ei fater, ei bethau a'i ddrych-feddyliau yn unig yn mron yr oedd ef yn rhagori: a rhagorol iawn ydoedd, fel y