Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymhorth i ni ddeall y Bibl yn well. Y mae trefn iachawdwriaeth a threfn natur yn debyg iawn i'w gilydd; y mae cyffely brwydd mawr rhwng egwyddorion anianyddol y naill ag egwyddorion moesol y llall." Oddiar fod y chwaeth hwn mor nerthol ganddo, yr oedd mor dra hoff o ddamhegion ein Hiachawdwr, y rhai gan mwyaf a dynid oddiwrth wrthddrychau anian er egluro natur ac egwyddorion ei deyrnas. "Yr oedd Iesu mawr (meddai) yn hoff iawn o waith ei Dad, yn caru edrych ar y lili, a gwrando swn y brain, a myfyrio dirgelwch yr hedyn, &c.; ac yr oedd bob amser yn dysgu egwyddorion oddiwrthynt. Y mae yn wir mai nid ei amcan ef yn gymmaint oedd dysgu ei wrandawyr yn egwyddorion a deddfau natur, ond dysgu egwyddorion ei deyrnas ei hun drwyddynt. Yr egwyddor a ddysgai oddiwrth waith ei Dad yn addurno y lili â gwisg mor brydferth oedd, y buasai yn sicr o ofalu am ddilladu ei blant—oddiwrth ei waith yn porthi y brain a'r adar ereill, y gofalai yn ddiau am borthi a diwallu anghenrheidiau ei bobl—ac oddiwrth dyfiant, cynnyddiant, a ffrwythlonrwydd yr hedyn, y buasai i egwyddorion moesol ei deyrnas, y rhai yr oedd efe yn eu hau yn y byd, i dyfu, cynnyddu, a dwyn ffrwyth ynddo. Diau ei fod ef wedi myfyrio ac yn deall egwyddorion a deddfau anian yn berffeithiach nâ neb arall, ond ni pherthynai i'w swydd ef eu hesbonio a'u hegluro, ond yr oedd natur ganddo fel book of reference, i wasanaethu yn awr a phryd arall fel eglurhad o egwyddorion mawrion trefn gras. Barnai y dylai pob pregethwr fod yn fyfyriwr natur drosto ei hun, a bod yr Arglwydd Iesu Grist yn siampl yn hyn yn gystal â phethau ereill, i weinidogion ei deyrnas. Ar y cyfrif hwn yr oedd yn hoff anghyffredinol o weithiau Ꭹ Parch. Jacob Abbott, o America, yn neillduol y "Gongl-Faen:" arferai ddywedyd "ei fod y tebycaf i Iesu Grist o ran caste ei feddwl, a wyddai efe am dano, o ddyddiau yr apostolion hyd yn bresennol." Y mae yn drueni mawr (meddai) na allem bregethu yn gyffelyb i'r modd y mae y dyn yma yn ysgrifenu."

3. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol. Ystyriai y wybodaeth hon yn anhebgorol i bregethwr, ac y dylai pob pregethwr beth bynag ei gwneyd yn bwnc a chelfyddyd i fyfyrio y Bibl â'i galon ei hun, ac os deallai ei galon ei hun, yna y byddai ganddo wybodaeth am bob calon, "oblegid, megys mewn dwfr y mae gwyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i ddyn." Yr oedd yn amlwg iawn i'w weled ynddo ef