Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob amser ei fod yn sylwydd a myfyrydd dwfn a manylgraff ar weithrediadau y galon ddynol, gan fel y byddai yn eu desgrifio, ac yn eu dilyn yn ei holl dröadau. Teimlad cyffredin ei wrandawyr fyddai yn un o syndod pa fodd y daethai o hyd i wybod am danynt, am weithrediadau dirgel a distaw eu meddyliau, eu tueddiadau a'u hesgusion. Credaf nad yw yn ormod i'w ddywedyd, na ragorodd neb yn ei oes yn Nghymru arno, os oedd un teilwng i'w gystadlu ag ef yn y canghenau hyn o wybodaeth, ag ydynt mor anhebgorol anghenrheidiol i swydd-waith yr areithfa.

2. Doethineb. Hon oedd un arall o elfenau ei ragoriaeth fel pregethwr. Wrth ddoethineb yn y lle hwn, deallir Ꭹ fedr o ddwyn y wybodaeth allan, a'i gosod mewn arferiad. Y mae gan lawer ystor fawr o wybodaeth, heb nemawr iawn o fedr i'w defnyddio er lles ac addysg ereill. Gwaith mawry pregethwr yw "ennill eneidiau," "a'r hwn a ennillo eneidiau sydd ddoeth;" rhaid iddo fod yn fedrus i osod ei wybodaeth allan yn y modd goreu i ateb y dyben. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ddigymmar yn hyn. Yr oedd ei ddoethineb yn ogyfartal â'i wybodaeth; "ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd," ydoedd, yn dwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen," gan eu cyfleu gerbron ei wrandawyr a'u dangos yn y goleu mwyaf ffafriol a manteisiol. Wedi gosod i lawr unrhyw egwyddor efengylaidd, galwai i weithrediad ei wybodaeth ysgrythyrol, a'i wybodaeth anianyddol, er ei hegluro drwy ysgrythyrau, a chydmariaethau, nes y byddai yn ddigon eglur ac amlwg i'r gwanaf ei ddeall a'i amgyffred; a chan ei churo adref at y gydwybod â morthwylion o ysgrythyrau, a chyffelybiaethau wedi eu casglu o feusydd anian; byddai yn sicr o gynnyrchu argraffiad dwfn-ddwys yn gyffredin ar feddyliau ei wrandawyr. Ni phregethai ond anfynych iawn yn un man, na adawai ryw beth i gofio am dano ar ei ol yn mynwesau y rhai a'i clywent. Ei adnabyddiaeth o'r galon ddynol fel y sylwyd, a'i galluogai i ragweled yr holl wrthddadleuon a'r esgusodion a gyfodent yn meddyliau ei wrandawyr yn erbyn y gwirioneddau a draddodai iddynt, a byddai atebiad parod i bob un o honynt ganddo, nes y byddai raid i'r pechadur naill ai plygu yn y fan, neu sefyll yn fudan hunan-gondemniedig gerbron yr athrawiaeth. Yr oedd yn gyfarwydd iawn ar y ffordd at sylw, cydwybodau, a theimladau ei wrandawyr, ac yn ofalus iawn wedi eu galw i weithrediad, i dywallt goleuni drwyddynt i'r deall; ac amcanai bob amser