Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ennill neges y weinidogaeth yn eu calonau, drwy ymdrechu er caethiwo eu meddyliau i ufydd-dod ac ymostyngiad dioedi i'r gwirionedd; fel hyn gellir dywedyd ei fod yn farchnatäwr call iawn gyda'i dalentau, yn eu troi oll i'r defnydd a'r dyben goreu. Y mae rhai yn gyflym iawn i yfed i mewn bob cangen o wybodaeth, ond yn hollol anfedrus i'w dwyn allan drachefn; "Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a'r hwn a ddygo ddeall allan," medd Solomon; a pherthynai y gwynfydedigrwydd yma mewn modd neillduol i wrthddrych y cofiant hwn.

Gallesid meddwl wrth wrando arno, mai dygwyddiad dawn naturiol yn unig ydoedd ei fedrusrwydd i ddeffroi a chynhyrfu teimladau ei wrandawyr, nid ymddangosai amcan a chelfyddyd at hyny yn y mesur lleiaf yn ei ddull; pan mewn gwirionedd, yr un pryd, mai wedi gwneuthur ei hunan yn gymmaint o feistr yn y gelfyddyd, drwy sylw a myfyrdod yr oedd, nes yr aeth yn hollol naturiol ynddi, yn gymmaint felly ag nad ellid canfod dim o ol trafferth dysgu arno. "Os bydd y bobl yn cael lle i feddwl (meddai) bod y pregethwr yn amcanu yn bennodol at effeithio eu teimladau, bydd hyny yn attalfa fawr ar ei ffordd i gael ei amcan i ben, ac yn attalfa i'r gwirionedd gael ei effaith ddyladwy ar y meddwl, a bydd yn ddigalondid ac yn rhwystr i'r pregethwr ei hun hefyd, os gwel ei gais yn troi yn aflwyddiannus. Y mae tuedd yn y fath argyhoeddiad yn meddyliau y gwrandawyr to destroy their confidence in our sincerity. Peidiwch byth a rhoddi lle iddynt feddwl eich bod yn awyddus iawn am ddryllio eu tymherau, ond gofalwch bob amser am sefydlu argyhoeddiad yn eu cydwybodau eich bod yn awyddus iawn am eu dychwelyd a'u hachub."

Yr oedd ei ddoethineb fel pregethwr hefyd yn ymddysgleirio yn fawr yn y ffaith o fod ganddo ryw un nod pennodol i bob pregeth, rhyw un argraff bob amser mewn golwg i'w gynhyrchu ar feddyliau ei wrandawyr; yr oedd ei ddyben, a rhyw un dyben neillduol ganddo mewn golwg bob tro yr esgynai i'r areithfa; ac at hwnw y cyrchai o'r dechreu hyd i'r diwedd, gan gadw ei nerth a'i lais at y rhanau pennodol hyny o'r bregeth a fyddent wedi eu hamcanu yn benaf i wasgu yr argraff bwriadol ar feddyliau y gynnulleidfa; ni byddai byth yn pregethu ar "antur, neu fel un yn curo awyr.' Bûm yn meddwl, wrth wrando llawer pregeth, (meddai,) Wel, i ba beth y mae hon dda? y pregethwr yn dweyd yn llyfn ac yn selog, heb un amcan yn y byd mewn golwg—no