Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

point whatever; ac ambell un arall â llawer o boints ynddi, heb yr un prif boint; ac felly y pregethwr yn dyrysu ei hun a'i wrandawyr rhyngddynt, ac yn colli y cwbl. Y mae yn ymddangos i mi, ein bod yn methu yn ddirfawr yn ein cyfarfodydd o herwydd hyn. Y mae yn anmhosibl, yn ol yr hyn yw cyfansoddiad y natur ddynol, i'n cyfarfodydd pregethu ateb llawer o ddyben, yn y dull y maent yn cael eu dwyn yn mlaen. Y mae Ysbryd Duw yn gweithio mewn trefn, ac yn ol deddfau cyfansoddiad y meddwl dynol, wrth ddychwelyd ac ail-eni pechadur, yn gystal ag y mae yn gweithio yn nhrefn natur, yn ol cyfansoddiad a deddfau pethau, er cynnyrchu gwahanol effeithiau yn y byd anianol. Yn ein cyfarfodydd ni, y mae un yn pregethu ar y mater hwn; cyfyd un arall ar ei ol, a phregetha ar fater arall digon pell oddiwrth y llall, ac felly yn mlaen drwy yr holl gyfarfod, fel mai damwain ydyw i ddim daioni gael ei effeithio drwyddynt. "Nid yw Duw awdwr anghydfod, ond trefn;" ond y mae annhrefn ac anghydfod mawr yn ein cyfarfodydd pregethu ni. Dylai fod trefn cyfarfod wedi ei thynu yn mlaen llaw—rhyw un argraff bennodol mewn golwg i gael ei heffeithio drwyddo―y pregethwyr i gael hysbysrwydd mewn pryd—a'r holl bregethau i dueddu yn uniongyrchol i gynnyrchu yr argraff hwnw; neu, o leiaf, dylai pob dwy bregeth a draddoder olynol, fod o'r un duedd uniongyrch â'u gilydd. Yr ydym yn fwy di-lun yn ceisio dwyn achos achub yn mlaen yn y byd, nag y mae neb ereill gyda'u galwedigaethau hwy. O, y mae plant y byd hwn yn gallach o lawer nâ ni. Pe baem yn meddwl am boliticians yn galw cyfarfod i gynnyg aelod seneddol i'r etholwyr; yr areithwyr yn dyfod yn mlaen, un i'w gynnyg arall i'w gefnogi, ac nid areithio un am y lleuad, a'r llall am y môr, a wnaent, ond am yr ymgeisydd―am ei egwyddorion ac am ei gymhwysderau i'r swydd. Cadwai pob un o honynt at ei bwnc; ac y maent yn ymddwyn yn gall ac yn philosophaidd hefyd; a dyma un rheswm paham yr ydym ninnau yn llwyddo cymmaint gyda dirwest; dirwest yw pwnc yr holl areithwyr; dal meddyliau y bobl at un peth, nes eu hennill ato, ac nid eu divertio â'r naill beth a'r llall, fel y gwneir yn y cyfarfodydd pregethu gyda ni. O, mi a garwn yn fy nghalon weled diwygiad trwyadl yn ein cyfarfodydd cyn fy marw.'

Traddodai y sylwadau uchod (o ran sylwedd), ynghyd â llawer o'u cyffelyb, ar y ffordd, yn nghlywedigaeth yr ysgrif-