Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enydd a rhai brodyr ereill, tua thair blynedd cyn ei farwolaeth; a da genyf allu ychwanegu ddarfod iddo gael ei ddymuniad o weled y diwygiad a ddesgrifiai yn y cyfarfodydd i raddau go helaeth cyn ei farwolaeth. Pwy na wel fod doethineb, priodoldeb, a synwyr mawr yn ei sylwadau blaenorol, a'u bod wedi tarddu o galon feddylgar a chraff, yn ffrwyth myfyrdod a sylw "gweithiwr difefl" ac ymroddgar. Hyderwn y gallant fod o fudd i bregethwyr a gweinidogion y gwahanol enwadau yn Nghymru etto. Yr wyf fi yn ystyried pob peth a glywais ganddo am bregethu a phregethau yn werth en dal a'u cofio, gan y golygaf mai efe oedd Solomon y weinidogaeth yn ei ddydd: "a hefyd am fod y pregethwr yn ddoeth."

Ychwanegwn etto sylw arall am ei ddoethineb fel pregethwr yr oedd bob amser yn ofalus i beidio treulio allan ei fater, neu i beidio dywedyd cymmaint arno ag a allasai ddywedyd; ond mor fuan ag y darfyddai iddo egluro un gangen o hono, gadawai hòno, ac ymaflai mewn cangen arall, ac felly yn mlaen, nes yr elai drwy holl ganghenau y mater a drinai; anaml iawn y pregethai uwchlaw tri chwarter awr; ni chwynid erioed ei fod wedi bod yn rhy faith, ond yn hytrach cwynid ei fod yn rhy fyr. Gofalai yr un modd hefyd am beidio gỳru gormod ar deimladau ei wrandawyr, wedi eu dirwyn megys i'w law, a'u cael "fel afonydd o ddwfr" dan ei lywodraeth. fel y gallai eu troi fel y mynai, ymattaliai ac arafai pan welai hwynt wedi codi yn lled uchel, fel y gostyngent ac yr ymionyddent drachefn. Mawr hoffai weled y gynnulleidfa yn astud ac effro, clywed eu hocheneidiau a gweled eu dagrau, ond yr oedd yn wrthwynebol iawn i waeddi a bloeddio, ac yr oedd yn gosod ei wyneb yn llyn iawn yn ei erbyn bob amser; barnai ei fod yn anweddaidd-dra mawr mewn addoliad crefyddol, a'i fod wedi bod yn atalfa i lawer o eneidiau gael eu hachub. Cynghorai ei frodyr yn y weinidogaeth a ddeuent i ymweled ag ef yn ei gystudd diweddaf, pan yr oedd adfywiad nerthol yn yr eglwysi, i beidio ar un cyfrif roddi cefnogaeth i'r gorfoleddu, fel ei gelwir. "Y mae yn dda iawn genyf ddeall (meddai) nad oes dim o hono hyd yma yn perthyn i'r adfywiad hwn; y mae arnaf ofn clywed ei fod yn dechreu, cânwn yn iach i'r adfywiad wedi hyny."

Byddai yn sylwi yn fynych, bod yr un mor bosibl i deimladau y gwrandawyr fod yn rhy gynhyrfus, yn gystal ag yn rhy farwaidd, i dderbyn argraff oddiwrth y gwirionedd, ac y