dylai fod gan y pregethwr amcan pennodol at eu codi a'u cadw mewn teimlad astud, a bod yn ochelgar rhag eu codi yn rhy uchel i farn, a rheswm, a chydwybod gyflawni eu priodol swyddau tuag at y gwirionedd.
3. Un arall o'i ragoriaethau fel pregethwr oedd ei symledd, (simplicity.) Pa fater bynag a gymmerai mewn llaw, gwisgai ef â symledd ac eglurdeb rhyfeddol, ni byddai cymylau, a niwl, a thywyllwch o'i amgylch un amser. Nid un o'r pregethwyr hyny y clywid rhai yn dywedyd am dano, "Ni wn i yn y byd pa beth wyt yn geisio ddywedyd, gobeithio dy fod yn dywedyd y gwir," oedd WILLIAMS; gwnelai ef yn ddigon eglur i bawb o'i wrandawyr beth a fyddai yn geisio ddywedyd, oblegid nid ceisio dywedyd peth a methu a wnai ef, ond ei ddywedyd a'i egluro nes gwelai ac y deallai pawb a geisiai ei ddeall ef. Gwnelai ef sylw mawr o bethau a esgeulusid gan ereill yn gyffredin yn eu pregethau, codai a dangosai bethau ag a fyddent, (yn ol yr ymadrodd cyffredin,) dan drwynau pawb, ac etto heb eu gweled a'u defnyddio. Nid wyf yn cofio ddarfod i mi ei wrando unwaith erioed, na byddwn yn teimlo yn ddig wrthyf fy hun am na buaswn o'r blaen wedi canfod rhyw bethau a glywn ganddo, ac wedi gwneuthur defnydd o honynt—mor hawdd eu gweled erbyn iddo ef eu dangos, mor agos oeddynt erbyn iddo eu codi i sylw; ac etto mor briodol, a phrydferth, a defnyddiol i ateb y dyben a wnelai o honynt, pethau a wyddai pawb yn gystal ag yntau, ond rhoddai efe ryw oleu a golwg newydd arnynt. Yr oedd gwir oruchelwychedd (sublimity) yn ei symledd ef, a'i gwnelai yn bregethwr i'r dealldwriaethau mwyaf coethedig, a'r rhai gwanaf ac iselaf ar yr un pryd.
Yr oedd ei gydnabyddiaeth ag egwyddorion y Bibl, ei gydnabyddiaeth â gwrthddrychau ac egwyddorion anian, ynghyd â'i gydnabyddiaeth â'r natur ddynol, ac hefyd ei fedr i osod ei fater allan gyda symledd a goleuni, yn ei wneuthur yn wir fawr yn yr areithfa, yn ei alluogi i wasgu yr athrawiaeth adref at y galon gyda nerth a deheudra anarferol.
Fel enghraifft o'i hoffder at ddull syml ac eglur o bregethu, gellid dyfynu rhai o'i sylwadau yn y bregeth ddiweddaf a draddododd mewn cymmanfa, yn Bethesda, swydd Gaernarfon, yn y flwyddyn 1839, ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth:—
"Yr ydym wedi mawr niweidio y byd, (meddai,) a mawr gymylu gogoniant llawer o athrawiaethau yr efengyl, drwy wneyd mystery o