Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honynt; gwneyd dirgelwch o'r pethau a wnaeth Duw yn amlwg; yn lle cymmeryd y pethau fel y mae y Bibl yn eu gosod o'n blaen, rhaid i ninnau eu cipio i'r awyr a'r cymylau, a dywedyd bod rhyw ddirgelwch yn perthyn iddynt, ac felly myned â hwynt i'r dirgelwch, a'u cymylu a'u tywyllu, nes creu dadleuon ac ymrysonau yn eu cylch, a hurtio y byd a'i ddyrysu, yn lle symud y rhwystr o'i ffordd. Er siampl, pe cymmerem yr athrawiaeth o gyfiawnhad pechadur, pa nifer o gyfrolan mawrion a ysgrifenwyd ar y pwnc hwn, ac â pha ddirgelwch y gwisgwyd yr athrawiaeth fawr hon? a meddyliaf yn sicr, y byddai yr hwn a gymmerai y drafferth i ddarllen a cheisio deall yr oll a ysgrifenwyd ar y mater, yn mhellach oddiwrth ei ddeall yn y diwedd, nag oedd cyn dechreu, y byddai wedi ei hurtio a'i ddyrysu. Ond gwelwch mor fyr, syml, ac eglur, y pregethai Iesu Grist gyfiawnhad pechadur: 'Dau wr a aeth i fynu i'r deml i weddio, un yn Pharisead a'r llall yn bublican. A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymmaint â chodi ei olygon tua'r nef, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur. Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared i'w dŷ wedi ei gyfiawnhau, ac nid y llall.' Ai dyna gyfiawnhad pechadur, Iesu mawr? Dyna efe; pechadur yn cwympo fel y mae, yn ei drueni, i drefn a thrugaredd Duw, heb ganddo un ddadl i'w chynnyg, ond trugaredd noeth, am ei fywyd. Dyna'r athrawiaeth yn ei gwaith; a phe buasem wedi dangos etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn eu gwaith, ni buasai nemawr ddim ymryson wedi bod erioed yn eu cylch yn mysg Cristionogion. Darfu i ninnau theorizio yr athrawiaethau hyn, a thrwy hyny eu cuddio a'u cymylu, nes gwneyd drychiolaethau o honynt, a chreu casineb atynt yn meddyliau dynion. Ond y maent yn ymddangos yn brydferth a hardd iawn yn eu gwaith, yn gymmaint felly, fel na all neb ddigio wrthynt, nac anfoddloni iddynt.

"Gadewch i ni edrych ar etholedigaeth a gwrthodedigaeth yn y goleu hwn.

"I. Etholedigaeth.

"Wrth yr etholedigion yr wyf yn deall y personau hyny y rhagwybu Duw y byddai yn oreu ar y cyfan, er ei ogoniant ei hun, a lles a daioni cyffredinol y wladwriaeth fawr, i ddwyn oddiamgylch y fath oruchwyliaethau a dylanwadau Dwyfol, ag a effeithient eu dychweliad, a'u parhad hyd y diwedd. Ymdrechaf ddangos yr athrawiaeth yn ei gwaith, ac nid yn ngolyg-ddysg (theory). Caf roddi rhai siamplau.

"1. Cyfeiriaf chwi yn gyntaf at amgylchiadau dychweliad boneddiges, yr hon a fuasai byw yn mlynyddau boreuaf ei bywyd yn nghanol pleserau a meluswedd buchedd, yn hollol ddiystyr o grefydd, ac yn ddirmygus iawn o grefyddwyr. Priododd yn lled ieuanc â boneddwr ieuanc o'r un nodwedd â hi ei hun, ac aethant yn mlaen am rai blynyddau yn mhellach, i ddilyn pleserau a dullweddau y byd hwn. Ganwyd iddi ddau o blant, ac yn mhen rhyw gymmaint, cymmerwyd ei