Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phriod yn glaf, a bu farw; felly gadawyd hi yn weddw, a'i phlant yn amddifaid. Yn mhen rhyw yspaid drachefn, bu farw un o'r plant, a'r llall drachefn a gymmerwyd oddiwrthi, fel y gadawyd hi, fel Naomi gynt, yn amddifad o'i gwr a'i dau blentyn. Yr oedd drygfyd wedi dyfod i'w thŷ, amgylchiad profedigaethus ar ol y llall a'i cyfarfu, nes ei dar. ostwng i amgylchiadau lled isel yn y byd. Gorfu iddi adael y palas yr oedd yn byw ynddo, a symud i le llai. Erbyn hyn yr oedd wedi ei dofi a'i dwyn i raddau ati ei hun, ond etto mor ddyeithr i grefydd ag erioed. Gyferbyn lle yr oedd yn byw yn awr yr oedd addoldy, a gwelai y bobl ar y Sabboth, ac amserau ereill, yn cyrchu iddo; ac yn mhen rhyw gymmaint o amser, dechreuodd feddwl pa beth a allent fod yn ei gael yno, gan eu bod yn parhau i gyrchu yno o bryd i bryd mai rhaid oedd eu bod yn cael rhyw bleser a budd, onidê, na buasent byth yn trafferthu eu hunain i ddyfod yno. Teimlai ei hunan yn annedwydd; ni wyddai beth oedd yr achos; ac ni wyddai beth a'i symudai. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned yno ryw Sabboth, ac felly fu. Ymaflodd y gwirionedd yn ei meddwl—tywynodd goleuni newydd i mewn i'w chalon—canfu ogoniant crefydd Crist—a gwelodd mai adnabyddiaeth a meddiant o honi oedd yr unig beth anghenrheidiol iddi er ei dedwyddwch a'i chysur mewn bywyd ac angeu. Daeth yn Gristion gostyngedig a duwiolfrydig; pobl yr Arglwydd, y rhai a gasäai ac a ddirmygai gynt oeddynt ei chyfeillion anwylaf yn awr. Rhoddodd y profion mwyaf boddhaol o wir gyfnewidiad cyflwr, a bu farw mewn dyddanwch a gorfoledd. Beth oedd hyn? Etholedigaeth yn ei gwaith.

"2. Gwr ieuanc a ddygasid i fynu mewn teulu crefyddol, ond a droes allan yn wadwr a dirmygwr crefydd, yn anffyddiad penderfynol; ymroddasai i bob halogedigaeth, i" wneuthur pob aflendid yn un chwant." Bu agos iddo dori calon ei fam dduwiol; tywalltai aberoedd o ddagrau yn ei achos; ac yr oedd bron wedi anobeithio am ei ddychweliad; ond pa fodd bynag, wedi iddo fyned yn mlaen rai blynyddau mewn gyrfa o lygredigaeth ac anystyriaeth, daeth amgylchiad i'w gyfarfod a roddodd attalfa arno. Yn yr amgylchiad hwnw, gwasgwyd ef i ail feddwl am ei fywyd blaenorol—am gynghorion ac ymbiliau ei rieni—am ddagrau a gweddiau ei fam dduwiol drosto. Dechreuodd ddarllen y Bibl a ddirmygasai, a chafodd ef yn llyfr tra gwahanol i'r hyn y tybiasai ei fod; cyrhaeddodd y cleddyf dau-finiog trwodd hyd y cymalau a'r mêr, gan farnų meddyliau a bwriadau ei galon. Cyfnewidiwyd a dychwelwyd ef; daeth i fod yn aelod defnyddiol a dysglaer yn eglwys Dduw; gwelodd yr hen fam dduwiol ei mab hwn oedd farw, wedi dyfod yn fyw drachefn.' Etholedigaeth yn ei gwaith.

"3. Bywyd merch edifeiriol, yr hon a droisai allan yn wyllt ac anystyriol, gan ddilyn oferedd, ac o'r naill radd o ddrygioni i'r llall, nes o'r diwedd golli pob tynerwch cydwybod, a dibrisio ei hun yn gymmaint