Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a mynych y dywedai, na's gwnaed mo'i dafod efi siarad Saesnaeg: duwinyddiaeth a phregethu oedd gwrthddrychau penaf ei fyfyrdodau y pryd hyny; a chwedi hyny, tra y parhaodd ei einioes. Yr oedd un peth nodedig i'w weled ynddo yn yr athrofa, a chwedi'n; rhy brin y darllenai awdwyr Saesnig yn agos i gywir, ar yr un pryd byddai yn dra sicr o ddeall eu meddwl—gwelai hwnw yn gynt nâ'r cyffredin o'i gyd-ysgolheigion. Yn gymmaint â bod Mrs. Williams o ddygiad i fynu mor dda, ac yn fwy o Saesnes nag o Gymraes, meddyliaf fod yr arferiad o siarad yr iaith Saesonaeg gyda hi a'r plant yn y teulu, wedi dysgu iddo draddodi ei feddwl yn yr iaith hon, yn llawn cymmaint, os nad mwy nâ dim arall yr ymarferodd ag ef mewn un amser blaenorol. Yr oedd ganddo gyflawnder o ymadroddion Saesonaeg, ac yr oedd yn eithaf parod a rhwydd yn yr arferiad o'r cyfryw, mewn siarad a phregethu, os byddai eisieu, er nad oedd eu cydiadau â'u gilydd, na'u haceniad, yn gywir bob amser; etto mawr hoffid ei bregethau a'i gyfeillach gan y Saeson adnabyddus o hono yn mhob man. Yr oedd ei ddull o siarad a thraddodi ei feddwl mor unplyg ac eglur, fel nas cam-ddeallid ef gan nemawr un a'i clywai,

4. Am dano fel pregethwr. Y tro cyntaf y clywais ef ydoedd mewn tŷ annedd, mewn lle a elwir "Y Parc, Cwm-glan-llafar;" nid oedd y pryd hwn ond newydd ddechreu pregethu yn gyhoeddus. Yr wyf yn meddwl mai cyhoeddiad ei hen athraw, y Parch. W. Jones, o Drawsfynydd, oedd yno y pryd hwnw, ond ddarfod i WILLIAMS ddyfod gydag ef yno, a phregethu ychydig o'i flaen. Pregethai Mr. W., hyd eithaf fy nghof, yn llyfr Datguddiad, yn nghylch y saith ganwyllbren aur, &c.; a'r hen wr duwiol, Mr. W. Jones, yn ymdrechu cynnal ei feddwl a'i gefnogi yn y gorchwyl, trwy duchan ac ocheneidio llawer iawn tra y parhaodd; ymddangosai yr hen wr fel pe buasai arno fawr ofn iddo fethu myned yn mlaen neu gam-ddywedyd; ond nid oedd fawr perygl methu myned yn mlaen ar WILLIAMS, ond yn hytrach o'r ochr arall, o ddweyd gormod. Yr oedd ei ddull a'i agwedd, pan y dechreuodd bregethu, yn lled annerbyniol gan lawer. Cof genyf am un yn Llanuwchllyn, wedi iddo ei glywed un o'r troion cyntaf y pregethodd yno, yn dywedyd, "Nad oedd arno ddim eisieu swmbwl i'w yru yn mlaen, ond yn hytrach yn ei drwyn i'w yru yn ol." Golwg hyf, a lled ysgafn a chellweirus oedd arno pan y dechreuodd bregethu, a byddai yn dueddol i ddywedyd lliaws o ymadroddion a dueddai i yru ei wrandawyr yn ysgafn a chwerthinllyd. Nis gwn am neb y dywedwyd mwy wrtho am ddiwygio yn ei ddull o bregethu nâ Mr. W., yn enwedig gan ei hen gyfaill, y Parch. J. Roberts, o Lanbrynmair; ond er cymmaint a ddywedid wrtho, ni byddai ein hanwyl gyfaill WILLIAMS byth yn tramgwyddo fel y gwna llawer, ond derbyniai y cynghor yn siriol a llawen, a gwnai ddefnydd da o hono yn wastad; nid mul ystyfnig, yn meddwl am ei ddull a'i bethau yn well nag y medrai