Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod. Yr oedd ei awyddfryd i ymgyrhaedd am wybodaeth grefyddol yn gysson a pharhaus; ei ymdrech a'i awydd i ymddyddan am danynt oedd ddiflino; ac ystyriai yn wastad nad oedd crefydd yn y pen '(mewn theory) ond o ychydig werth, os nad esgorai ar ymarferiadau duwiol. Bum lawer canwaith yn ei gyfeillach pan oeddym yn yr athrofa, dan ofal y Parch. Jenkin Lewis, yn Ngwrecsam, a chwedi hyny, mewn amryw deithiau yn Nehau a Gogledd Cymru, ond nis gwelais ynddo erioed unrhyw ymddygiad annheilwng o Gristion gwirioneddol. Gwir yw fod Mr. WILLIAMS o dymher naturiol lawen a siriol, ac felly yn hawdd iawn myned yn hy arno yn ei gyfeillach; ond cadwai yn wastad i arfer ei hyfdra o fewn terfynau priodol; a dangosai fod ofn pechu yn egwyddor lywodraethol ei galon.

Yr oeddwn yn nghyfarfod ei ordeiniad ef yn y Wern, pryd yr oedd yn bresennol, 'rwyf yn meddwl, y Dr. Lewis, y pryd hwnw o Lanuwchllyn; Jones, o Drawsfynydd; Hughes, o'r Dinas; a Lewis, o Wrecsam. Dichon fod yno rai gweinidogion ereill, ond nid wyf yn sicr. Yn mhen ysbaid amser wedi ei sefydlu yno, ymddyddanai â mi ar wahanol amserau, am newid ei sefyllfa drwy briodas; a dywedai ei fod yn meddwl y gallai gael cyfeillach ag un o'r enw Rebecca Griffiths, (ei briod wedi hyny,) yr hon oedd yn werth rhai miloedd o bunnau; ond am nad oedd y pryd hyny yn aelod eglwysig yn y dref y preswyliai ynddi, sef Caerlleon, yr oedd yn mawr ofni y byddai iddo trwy gyfeillachu â hi, a'i phriodi, bechu yn erbyn Duw, tynu gwaradwydd ar grefydd, a gwneyd ei hun yn ddiddefnydd yn y weinidogaeth, er fod Miss Griffiths, y pryd hyny, yn un o'r merched ieuainc harddaf ei buchedd y gwyddid am dani. Ond yn mhen yspaid mawr o amser, (meddyliaf rai blynyddau) ymunodd y ferch ieuanc â'r eglwys Annibynol yn Nghaerlleon, pryd yr oedd pob arwyddion arni ei bod yn ddynes wir grefyddol. Trwy hyn symudwyd y rhwystr oedd yn ei feddwl i gyfeillachu â hi, a'i phriodi; a hwy a ymunasant â'u gilydd yn y flwyddyn 1817, yr hyn yn ddiau a fu o lawer o gysur personol a theuluaidd iddynt. Yn ysbaid y gyfeillach uchod, dangosai Mr. WILLIAMS lawer o dynerwch cydwybod fel Cristion gonest, a didwyll; yr oedd bob amser o'r farn, mai duwioldeb, doethineb, a chynnildeb, ydoedd y prif addurniadau perthynol i wraig gweinidog.

3. Am ddygiad Mr. WILLIAMS i fynu, gellir yn hawdd dywedyd ei fod wedi ei fagu gan rieni mor barchus â nemawr yn y gymmydogaeth, y rhai a ddalient dyddyn bychan mewn lle mynyddig, a lled anghysbell oddiwrth foddion crefyddol; fodd bynag, cafodd y fraint o ddysgu darllen Cymraeg yn lled dda yn ei ddyddiau boreuol; a chredaf, nas medrai ond hyn yn unig pan ddechreuai bregethu. Wedi iddo fyned i'r ysgol i Fwlchyffridd, ac i'r Athrofa, nid oedd ei gynnydd mewn dysgeidiaeth ieithyddol ond araf neillduol; bu bedair blynedd yn yr Athrofa; ond nid oedd ganddo ond ychydig flas ar ddysgu ieithoedd trwy y tymmor hwn,