PENNOD V.
Llythyrau ar ei nodweddau, oddiwrth y Parchedigion C. Jones, Dolgellau—M. Jones, Llanuwchllyn—T. Jones, Minsterley—H. Pugh, Mostyn—E. Davies, Llannerchymedd—R. Parry, Conwy—R. P. Griffiths, Pwllheli—S. Roberts, Llanbrynmair—D. Rees, Llanelli.
At y Parch. W. Rees.
ADWAENWN y brawd WILLIAMS er ys cryn amser cyn iddo ddechreu pregethu. Byddai yn arferol dyfod i Lanuwchllyn i ambell oedfa a chyfarfod blynyddol a gynnelid yno. Meddyliai y pryd hyny am fyned yn saer coed, a byddai yn arferol o naddu mwy nâ'r rhan fwyaf o'i gymmydogion; ond pan y cafodd annogaeth i bregethu gan eglwys Penstryd, trodd heibio yn hollol y naddu, a'r meddwl am fyned yn saer coed.
1. Am dano fel dyn, gellir dywedyd ei fod y pryd hwnw yn wr ieuanc gwridgoch, teg yr olwg, ac o gorff cadarn nerthol; yr oedd yn ŵyr i Edmund Morgan, y gwr cryfaf, o ran corffolaeth, y gwyddid am dano yn Ngogledd Cymru, yr hwn a fu farw, meddant, yn 110 oed. O ran ei enaid, yr oedd yn meddiannu ar ddeall cyflym, a hefyd gwroldeb a hyfdra. Unwaith, pan yn myned heibio i darw rhuthro, yr hwn, pan ei gwelodd, a redodd ar ei ol, ond cafodd WILLIAMS ben y clawdd o'i flaen, a safodd yno; a chyda hyny, dyma y tarw wrth ei sodlau, ac yn cynnyg y clawdd ar ei ol, dan wneuthur rhuadau dychrynllyd; ond WILLIAMS nid ysgogodd o'r fan, ond a'i mesurodd yn ei dalcen â gwegil y fwyall oedd yn ei law, gan waeddi allan ar y pryd, "Mi rof i tï'r chwech." Tarawodd ef nes yr aeth i fath o lewygfa, a phan ddaeth ato ei hun, efe a redodd ymaith, fel un yn dianc am ei einioes, a chafodd Mr. W. fel hyn fuddugoliaeth ar ei elyn. Dywedai y teulu i'r hwn y perthynai y tarw, ei fod yn cofio y geiriau, "Mi rof i ti'r chwech," tra y bu ef byw—pan y dywedid hwy wrtho, efe a ddangosai yr arswyd mwyaf. Yr oedd gan Mr. WILLIAMS ddeall cyflym, a dawn rhwydd a difyrgar i draddodi ei feddwl, fel y mae yn hysbys i bawb a'i hadwaenai.
2. Am dano fel Cristion, cyn a chwedi dechreu pregethu, ynghyd ag ystad ei fywyd yn gyffredin, profai Mr. WILLIAMS ei hun, yn ei gyfeillachau, yn llawer rhagorach Cristion nag y meddyliai llawer wrth edrych arno oddidraw. Barnai amryw, nad oeddynt gydnabyddus ag ef, mai un anystyriol, cellweirus, a hunanol, ydoedd; ond nid hir y byddent heb newid eu meddwl, wedi iddo ddyfod i'w cyfeillach; a buan yr argyhoeddid hwynt, fod WILLIAMS o egwyddor yr hyn a broffesai ei