Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

theimladau ei wrandawyr gwelid gwenau yn aml ar eu gwyneb, ond pan daranai y pregethwr, ymaflai arswyd yn y pechadur, a byddai braw yn ymddangos yn ei wedd. Tarddai anmherffeithiau ei weinidogaeth o orffrwythlonder ei feddwl, yr hwn ni wareiddiesid yn ddigonol gan ddysgyblaeth foreuol. Yr oedd llawer un o'i syniadau yn anghoethaidd; ac yn fynych byddai ei siamplau eglurhaol a'i iaith yn annillynaidd. Am y mynai i'w holl wrandawyr ymwneyd yn bersonol â chrefydd, carai gymhwysaw ei ymadrodd at bob un trwy arferyd y rhagenw unigol yn yr ail ddyndawd. Diau na fuasai ei ddull ef o bregethu yn gymmeradwy gan gynnulleidfa ddysgedig o Saeson. Gellid dirnad gwahaniaeth yn chwaeth gwrandawyr yn Nghymru a rhai yn Lloegr, ond ystyried y buasai i amryw o brydweddion gweinidogaeth Mr. WILLIAMS, o achos y rhai yr hoffid ef gymmaint yn y Dywysogaeth, weithredu yn erbyn ei lwyddiant yn Lloegr. Ond hysbyswyd i mi fod ei weinidogaeth ef, dros amryw flynyddau cyn ei farwolaeth, yn gwbl rydd oddiwrth y pethau a anghymmeradwyid gan wrandawyr deallus. Ei olygiadau ar bynciau y ffydd oeddynt isel-Galfinaidd. Y mae crefydd ymarferol, yn Nghymru, mor ddyledus i'w weinidogaeth ef ag ydyw i eiddo neb o'i gydoesolion. Pan yn gwrthwynebu golygiad tra chyffredin, mai y derbyniad o ras yw sylfaen dyledswydd, hònai ef y dylai dynion ddefnyddio y galluoedd a roddodd Duw iddynt, pa un a fyddont wedi derbyn gras achubol ai peidio; a dywedai, er y pechent trwy ymwneyd â chrefydd heb ddybenion cywir, etto pechent fwy trwy eu hesgeuluso yn hollol. Ymresymai yn y modd a ganlyn:—' Gwir eich bod yn pechu tra yn gwrando yr efengyl ac heb ei chredu, ond byddai i chwi bechu mwy trwy beidio ei gwrando o gwbl. Yr wyf fi yn pechu yn erbyn Duw os ydwyf yn pregethu yn ddigariad at Grist ac eneidiau dynion, ond pechwn fwy ped esgeuluswn bregethu yn hollol.' Yn gyffelyb yr ymresymai gyda golwg ar ddyledswyddau ereill. Er hyny, meddyliwyf y cariai syniadau, am effeithioldeb offerynoliaeth dynol, dros eu gwir derfynau.

Bu farw y gwr da hwn yn ngwanwyn y flwyddyn hon, yn y pum deg a naw mlwydd o'i oedran."