credai pawb am dano ei fod yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nef, a diau ei fod felly mewn gwirionedd. Deuai ei gymeriad i'r amlwg yn ei weithgarwch gyda chrefydd. Gweithiwr caled ydoedd yn mhob ystyr. Mae llawer o hen dai y Morfa a'r cylchoedd yn dystion heddyw, mai nid dyn segur oedd efe gyda ei orchwyl gwaith, sef toi; ond er gweithio yn galed ar hyd yr wythnos, ni rwystrai hyny ef i wneud ei ran gyda chrefydd. Byddai yn aml yn myned tuag ochr Risca a manau ereill i doi ; ond ni fyddai un amser braidd yn colli cyfarfod gartref; cerddodd ganwaith wyth a deg milltir o ffordd i'r cyfarfod gweddi neu y gyfeillach gartref, wedi gweithio yn galed drwy y dydd. Pregethodd lawer yn y cylchoedd oddiamgylch; ond nid yn aml y byddai yn aros dros nos yn un man.
Rhaid fod ganddo gyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, ac onide, nis gallasai wneud y pethau hyn. Gwnaeth ef bethau ag ydynt yn ein golwg ni yn awr y nesaf peth i wyrthiau. Yr ydym ni yn awr yn masweiddio ein cyfansoddiadau, nes y mae yr awel leiaf yn effeithio arnom; tra yr oedd ein tadau yn haiarneiddio eu hunain trwy galedwaith a phenderfyniad, hyd nes oeddynt yn alluog i ddal pob tywydd braidd, a dichon y byddai yn dda i ni gymeryd gwersi oddiwrthynt yn hyn o beth. Gwir ei fod ef wedi cael cyfansoddiad tuhwnt i'r cyffredin, a chafodd fwynhau y fendith o iechyd yn dra rhyfeddol ar hyd ei oes, ac o herwydd hyn, nid pawb allasai gystadlu ag ef mewn cerdded a phregethu; ond eto, mae yn ddiddadl y gallai y gweiniaid gryfhau llawer arnynt eu hunain drwy beidio anwesi ac ofni cymaint ; gwyddom am rai ag ydynt yn or—ofalus am eu hiechyd, a hwynt—hwy yw y mwyaf afiach wedi yr holl drafferth. Weithiau iawn y byddai Mr. Harries yn gwisgo dwy hugan, (coat), ac ni thrafferthai ei hun drwy wisgo dau gadach am ei wddf, hyd yn ddiweddar iawn; ond er hyny, ychydig iawn o weithiau yn ei oes y bu yn achwyn o herwydd anwyd, ac os na chai gystal hwyl ag arfer wrth bregethu, ni fyddai un amser yn gwneud ystumiau a phesychu, gan ddyweyd fod yr "anwyd just ei ladd." Bu yn dyfod i'r Rhydri bob mis am tuag ugain mlynedd. Deuai oddicartref boreu'r Sabboth, gan groesi y caeau, hyd at Bont Llanfihangel, a thrwy