Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Draethen, a byddai yn dra sicr o fod yn y Rhydri erbyn deg; pregethai am dri o'r gloch yn y prydnawn yn nhŷ Mrs. Gibbon, yn y Ffaldgerrig gerllaw Rhydri, a chyrhaeddai y Morfa erbyn chwech. Byddai felly yn pregethu dair gwaith ar y Sabboth hwn, a cherdded tua phymtheg milltir o ffordd; ond nid oedd gwneud hyn ond un o'i orchestion cyffredin ef. Byddai weithiau yn myned mor bell a Tabor, ar foreu Sabboth, a chyrhaedd gartref cyn cysgu, wedi pregethu ddwy waith, ac weithiau âi i Fynyddislwyn ac yn ei ol, wedi pregethu dwy, ac weithiau dair gwaith. Byddai hyn dros ugain milltir o gerdded yn yr un diwrnod, a phregethu yn galed drwy y dydd. Nid oedd yn edrych fawr ar ddyfod i Machen yn y boreu, a phregethu dair gwaith, ac yn ei ol y noswaith hono. Gwnai hyn o herwydd ei fod yn ewyllysio gwneud. Pe buasai yn dewis, cawsai le cyfleus i aros dros nos, a digon o garedigrwydd. Pan yn dyfod ar ei deithiau Sabbothol i'r Rhydri, deuai Mr. P. Rees, tad Treharne, Ysw., gydag ef, braidd bob amser. Yr oedd Mr. Rees yn hen aelod parchus yn Heolyfelin, ac yn golofn gadarn dan yr achos yn y İle. Bydded fod Duw y tad yn Dduw i'r plant, a phlant eu plant hyd byth. Ymddengys fod Mr. Rees yn hoff iawn o Mr. Harries, er yr amser y daeth at grefydd, ac wedi iddo ddechreu pregethu, daeth yn hoffach o hono. Bu yn pregethu lawer gwaith yn ei dŷ, a dilynai ef, fel y nodwyd ar ei deithiau, i lawer man, a gweddus yw crybwyll fod ceffylau Mr. Rees at wasanaeth Mr. Harries pryd bynag y buasai yn dewis.

Crybwyllasom am Mrs. Gibbon, Ffaldgerrig. Yr oedd y ddynes dda hon yn aelod gwreiddiol o Heolyfelin, ac felly yn teimlo yn gynhes at Mr. Harries, gan ei fod yntau hefyd yn aelod gwreiddiol o'r un lle. Yr oedd hon yn un o'r tri ag fu yn cadw y ganwyll i oleuo pobl ardaloedd y Rhydri am flynyddoedd Mrs. Gibbon, Mrs. M. Edmunds, a Mr. D. W. Dafydd, dyma y tri chedyrn a fuont nerthol yn y dyddiau gynt. Mae yn wir nad oedd Mrs. Gibbon yn gallu myned gyda'r ddau ereill i'r cyfarfodydd; eto, yr oedd ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth. Profwyd wedi hyny fod gweddiau y tri hyn yn dderbyniol gan Dduw. Daeth bechgyn gwrol, megis Thomas Harry Jenkins, David Morgan,