Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

George Lewis, Edward Sion, &c., &c., 1 ymoryn am grefydd yn yr ardal, ac mae yr agwedd lewyrchus sydd ar yr achos yn y lle dan ofal Parch. J. Jones, yn eglur dangos mai nid ofer fu llafurus gariad crefyddwyr cyntaf y Rhydri. Gallem hefyd grybwyll gair am Mr. Harries, fel un o synwyr cyffredin cryf iawn. Dyma beth gwerthfawr iawn i weinidog sefydlog,—yr wyf yn dyweyd gweinidog sefydlog, am fod yn hawddach i ddyn deithio o fan i fan ag ychydig o synwyr cyffredin, nag aros yn yr un fan. Gwelai Mr. Harries yn mhell iawn, a thrwy hyn y bu yn alluog i gadw llawer terfysg maes o'r eglwys. Yr oedd yn gall fel y sarph, ac yn ddiniwed fel y golomen. Nid yn aml y gwelais ddyn â llygad mor graff ganddo i adnabod dynion ac amgylchiadau. Mae rhagweled y drwg yn fwy o gamp na'i attal wedi y tòro allan. Clywais ddyweyd am weinidog yn y Gogledd unwaith, mai y ffordd oreu i wneud ag ef fuasai rhoi gwely, bwrdd, a llyfrgell gydag ef yn y pulpud, a digon o fwyd o Sabboth i Sabboth, a gofalu na fuasai yn cael siarad â neb, ond â'r gynulleidfa, ar y Sabboth; ond nid oedd angen gwneud felly â Mr. Harries. Meddai ef ar ddigon o ddoethineb i ymddwyn yn briodol a chymeradwy yn mhob man. Pa le bynag y buasai yn cael drws agored unwaith, gallasai droi ei wyneb yno yr ail waith, a buasai ei roesaw yn sicr o fod gymaint, os nad mwy, yr ail waith na'r tro cyntaf. Fel enghraifft o'i sylw craff, cawn nodi y canlynol:—Pan nad oedd neb ond Mrs. James ac yntau yn grefyddol gyda'r Annibynwyr yn y Morfa, dywedodd Mrs. James wrtho un diwrnod, "Mr. Harris, rhaid i ni gael cyfeillach yma yn awr, yr ydym yn cael cyrddau gweddi a phregethu yma er ys blynyddau; ond ni chawsom yr un gyfeillach yma eto." "Na," meddai yntau," nis gallwn gael cyfeillach yn awr, o herwydd nid ydym ond dau, a rhaid i ni edrych at ein cymeriadau ar ddechreu yr achos yn y Morfa. Mae yn debyg ein bod ni yn ddigon gonest ein dau; ond beth ddywed y bobl am danom wedi i ni fod gyda'n gilydd yn cynal cyfeillach am awr neu awr a haner; pan gawn un atom, i fod yn witness, ni gawn gyfeillach.'

Gwelir wrth hyn, ei fod â'i "lygad yn ei ben," ac yn deall yn dda duedd lygredig pobl y byd, yn enwedig