Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. Yr hyn a wneir â'r ddau yn y diwedd,—"Casglu y gwenith i'r ysgubor, a "llosgi yr ûs." Sylwai fod gan Grist "wyntyll yn ei law, ac fod gan y "wyntyll " hono "bedair aden—aden y ddysgyblaeth—aden rhagluniaeth—aden erlidiau, ac aden y farn." "Yr wyf i, meddai, "wedi bod ar y llawr dyrnu am flynyddoedd lawer bellach, ac yr wyf wedi dal y driniaeth hyd yn hyn; ond mae y nithio mawr heb fod yn mhell, gobeithio na cha i ddim myned gyda'r gwynt y pryd hyny—ni cha y gwenith gwan, os yn wenith, ddim myned dros y garthen—gogoniant; a mwy na hyny, mae Duw yn gallu gwneud mwy nag un ffarmwr yn y wlad; mae Ef yn gwneud yr ûs yn wenith, ac yn wenith a ddaliant nithio y boreu mawr; mae y gwenith yn werthfawr iawn, mae yn cyrhaedd pris uchel yn y farchnad; mae y saint yn werthfawr—gwerth gwaed ydynt; talwyd yn ddrud am danynt gan Iesu wrth farw ar y groes.' Byddai yn hoff yn y blynyddoedd diweddaf o bregethu ar y testun hwn hefyd, "Tyn fi, a ni a redwn ar dy ol." "Gelwir y llyfr hwn" meddai (Caniad Solomon,) "yn gân cariad, ac mae yn right ei alw felly, o herwydd mae yma ddau yn caru, a'r ddau ryfedda 'rioed, sef Crist a'r eglwys. Crist garodd gynta', a fe sydd wedi caru fwya'. Peth rhyfedd iddo garu'r eglwys hefyd, oblegid 'doedd dim yn lân ynddi; na, yr oedd yn ddû ei lliw; ond fe'i carodd, a dylai hithau yn awr garu yn ol. Mae yma sŵn dyn ar lawr yn y testun"tyn fi—dyma'r fi ar lawr yn gofyn am help; tyn fi, 'rwy'n ffaelu d'od fy hunan; tyn fi, y fi sy' ar ffordd ; tyn fi, ac yna fe ddaw'r lleill—ni a redwn ar dy ol."

[ocr errors] Er ys tuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod chwarterol yn Sion, Rumni. Ei bwne oedd, "Undeb y saint â Christ." Dywedai, "Mae nerth yn yr undeb hwn; i chi'n cofio am y cawr Goliah o Gath yn myned i warthruddo byddinoedd y Duw byw, a Dafydd, llencyn gwridgoch, yn myned i fanc yr afon i hol pump o gerig yr oedd crac yn ei ffydd ef hefyd, buasai un yn ddigon—dododd un o honynt yn ei sling, a tharawodd y cawr nes y soddodd y gareg fach yn ei dalcen, a Dafydd bach yn fuddygoliaethwr." Dywedai yn mhellach, mae yr undeb hwn yn un bywiol, ac mae yr holl aelodau yn derbyn eu bywyd a'u nerth o'r