Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pen. Mae holl aelodau y corph dynol yn derbyn cyfnerthiad o'r pen; mae co's bren weithiau, ond rhaid cael strap i ddal hono—dioich am y strap hefyd, pan fyddo angen am dani; ond nid oes ei heisieu ar aelodau Crist, oblegid mae bywyd ganddynt."

Soniai yn fynych am y dysgyblion yn ceisio attal y wraig o Ganaan at yr Iesu, ac mewn atebiad iddynt, dywedai hithau, "Gadewch i fi fyn'd." "Paid a blino'r Athro." "Sefwch o'r ffordd, (gan agor ei freichiau mawr,) mi fyna fyn'd;" "a phan ddaeth at y Gwaredwr, gofynai iddi, 'Be wyt ti yn mo'yn (mofyn)?' Mo'yn iechyd i'm merch.' 'Be 'dy'r mater arni?' 'Mae'n ddrwg ei hwyl gan gythra'l.' 'Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel.' Be 'dy hyny i fi? mo'yn iechyd i'm merch w i.' 'Nid teilwng rhoddi bara'r plant i'r cwn.' 'Nid dyna mhwne i, mo'yn iechyd i'm merch w i. Os na cha i fara, rho friwsionyn bach i fi, fe fydd hyny'n ddigon i fi.' 'Hwra, (gan gydio yn y Beibl â'i ddwylaw), 'dyma'r dorth bob tamaid i ti, a gad lonydd i fi?'"

Clywais ef lawer gwaith yn myned dros ei hanes cyn iddo gael crefydd, ac yn rhoi y goron ar ben gras am ei attal ar y ffordd tua dystryw. "Clywais Heir, Casbach; ond myn'd own i. Gwrandewais John Elias; ond myn'd own i. Clywais Christmas Evans fawr o Fôn; ond myn'd own i. Yr own yn gwneud sport o Morgan Howell, o'r Casnewydd; ond, gogoniant, daeth Efe, a chas finau lawr."

Pregethai yn Nghymanfa Tresimwn, yn haf 1861, am saith o'r gloch yn y boreu. Ei destyn yno oedd, "Gwlad well y maent hwy yn ei chwenych,"—un o'i hoff destynau. Yr oedd yr effaith a ganlynai y bregeth hon yn dra nodedig, ac yr oedd ei leferydd y tro hwn yn profi yn amlwg ei fod yn addfedu yn gyflym i'r nefoedd. "Gwlad well y maent hwy yn ei haeddu," meddai. Nage, gwlad well y maent hwy yn ei chwenych. Mae yma lawer wedi ei chwenych er ys blynyddau, ac yr wyf inau wedi ei chwenych, ac 'rwy' i yn meddwl mai yno yr â i, onide, frodyr (gan droi at y gweinidogion ar y stage). Gwlad well,—mae yn well yn ei thrigolion; mae gen i lawer o ffryndiau da yn y wlad yma, ond mae gwell yno; yno mae llawer o'm hen