Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfoedion i. Yno mae Hughes, Groeswen; Rowlands, Pontypwl, &c., a chyn y cwrddwn ni eto, yno bydda inau yno y cwrddwn ni nesaf; gobeithio y bydd yno lawer iawn o bobl y Gymanfa yma."

Yr oedd yn gwbl wreiddiol, ac ar ei ben ei hun fel pregethwr, ac anhawdd yw rhoi unrhyw ddrychfeddwl i'r rhai na chlywsant ef erioed, pa fath ŵr ydoedd ; ond yn awr, rhaid i ni adael yr hen frawd; ond cyn sychu yr ysgrifell, gadawer i ni roi tro i'w ystafell wely. Yr oedd er ys rhai misoedd yn methu pregethu, a bu am wythnosau yn methu dyfod o'i wely. Cawsom ein siomi yn hyn. Credem bob amser am dano, mai ar unwaith y buasai yn cael myned; a'n rheswm dros feddwl hyny oedd, ei fod wedi cael iechyd mor dda am oes mor hir; ond nid felly y bu. Buom yn ei weled ychydig o wythnosau cyn iddo huno, ac ni fuom mewn lle mwy cysegredig erioed. Yr oedd y dyn oddiallan â golwg wael arno, ond yr oedd rhyw arogl esmwyth ar yr ystafell, ac arwyddion eglur fod yno blentyn i Dduw ac etifedd teyrnas nef. Dywedai wrthym fod pob peth yn sound rhyngddo â Duw, ac adroddai yr hen bennill hwnw gyda nerth,—

Cyfamod rhad, cyfamod cadarn Duw,
Ni syfl o'i le, nid ïe nage yw," &c.

Dywedai wrth Mr. Davies, Risca, ar y pryd, ei fod ar ymadael â'r wlad yma; ac mewn atebiad, dywedai Mr. Davies fod gwlad well yn ei aros. "Ie, llawer gwell," meddai yntau, "a pheidiwch chwi myned i gountio tua Risca oco, oblegid nis gellir dweyd faint gwell." Yr oedd yn ceisio canu llawer iawn yn ei gystudd diweddaf. Nid oedd ganddo lais peraidd i ganu, mae'n wir; ond eto, canai â'r ysbryd, ac erbyn heddyw, mae yn gallu canu yn dda. Pan ddaeth awr ei ymddattodiad, yr oedd yn llawer cryfach nag yr oedd wedi bod, er dechreu ei gystudd, a gofynai yn hyf a gwrol, yn ngwyneb angau, "Angau, pa le mae dy golyn ?" Nid oedd ganddo yr un colyn i Mr. Harries, ac felly nid oedd ond cenad oddiwrth ei Dad i'w ymofyn tua thref. Cafodd fyned yn ei lawn hwyliau, ar yr ail ddydd Awst, 1862; ac ar y Mercher canlynol, ymgasglodd torf luosog i isod ei ran farwol yn y ddaear, gerllaw drws y capel ag y bu yn pregethu ynddo mor hir.