Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid ydym yn cofio i ni weled angladd mwy galarus erioed. Nid yn unig yr oedd y perthynasau yn wylo, ond yr oedd yr holl eglwys â chalon drom, ac nid yn unig ei eglwys a'i enwad ei hun, ond enwadau ereill hefyd; ac nid oedd hyn yn rhyfedd 'chwaith, o herwydd yr oedd ef yn byw mewn heddwch â phawb, ac yn barod iawn i roi help llaw i bawb wrth angen, ac nid oedd neb yn fwy cymeradwy nag efe, gan wahanol enwadau y gymydogaeth. Gallesid meddwl weithiau ei fod ar fyned yn Drochwr, a phrydiau ereill ei fod ar droi yn Drefnydd, o herwydd byddai yn pregethu yn aml yn nghapeli y ddau enwad a nodwyd, ac yn barchus iawn ganddynt. Nid rhyfedd, o ganlyniad, eu bod yn galaru ar ei ol.

Ar ddydd ei angladd, pregethodd y Parchedigion H. Daniel, Cefncrib, a D. Davies, New Inn. Dechreuwyd gan y Parch. L. Lawrence, Mynydd Seion, Casnewydd. Anerchwyd y dorf ar lan y bedd gan y Parch. J. Jones, Rhydri, a gweddiodd yr Ysgrifenydd. Heddwch fyddo i'w lwch. Bendith a llwyddiant a ddilyno ei blant, a'i ŵyrion, a'i orŵyrion. Arosed tangnefedd a chariad yn yr eglwys; a phan ddelo boreu'r codi, bydded ein bod oll ar y ddeheulaw. Pregethodd Mr. Davies, New Inn, yn ol ei orchymyn, y trydydd Sabboth ar ol ei gladdu, ar ei destun ef ei hun, "Mi a ymdrechais ymdrech deg," &c.

LLYTHYRAU.

Castellnedd, Tach. 19eg, 1863.

ANWYL SYR,-Gydag hyfrydwch mawr yr ydwyf yn cydsynio â'ch cais, trwy ysgrifenu yr ychydig linellau canlynol, o berthynas i'r diweddar Barch. Mr. Harries o'r Morfa, yr hyn a gyflwynaf i'ch gwasanaeth, gyda golwg ar y Cofiant a fwriedir genych.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

Parch. T. L. Jones.J. MATHEWS.

"Coffadwriaeth y Cyfiawn sydd fendigedig;" felly y mae coffadwriaeth y Parch. Isaac Morgan Harry o'r Morfa, yn