Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daethum drwy hyn i fwy o gyfeillach neillduol ag ef. Byddai gan bobl Mynydd Seion barch mawr i Harries o'r Morfa, a chawsant lawer cyfarfod hwylus dan ei weddiau a'i bregethau dylanwadol—nefoedd ar y ddaear fyddai y cyfarfodydd gydag ef ar rai amserau. Mae cydmares bywyd yr ysgrifenydd yn cofio cyfarfod dan bregeth Mr. Harries yn Mynyddislwyn ag a gafodd effaith ryfeddol ar ei meddwl— pan ag y darluniai ef y modd yr oedd y bugail da yn dyfod â'r ddafad gyfrgolledig tuag adref; codai y Beibl ar ei ysgwydd, fel y gwnai y bugail â'r ddafad, gan ei‘dwyn ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.' Yr oedd Mr. Harries mewn rhyw hwyl nefolaidd anghymharol ar y pryd, fel y byddai ar rai troion, fel y gŵyr pawb a'i hadwaenai. Bûm yn newid pulpidau â'r hen frawd o'r Morfa amryw weithiau; ac nid oedd neb yn fwy parod i roi help llaw, pan ag y byddai cyfyngder arnaf, nag efe.

Claddwyd plentyn saith mlwydd oed i'r ysgrifenydd yn y lle crybwylledig, ac nid oedd neb yn fwy agos at deimladau y fam a'r tad i'w wahodd i'w chladdu nag ef, ac fe ddaeth, ac a bregethodd yn Mynydd Seion, ar yr ymadrodd, “Och, fy meistr, canys benthyg oedd." Efe hefyd a fedyddiodd Mary—Ann. Yr oedd ef a'i bobl anwyl yn y Morfa yn gyfeillion calon genyf bob amser, ac nid yw y cariad a'r cyfeillgarwch ag oedd genyf gynt wedi ei ddileu o'm calon hyd yn hyn. Yr oedd Mr. Harries wedi addaw lawer gwaith i dalu ymweliad â Chastellnedd; ond daeth angau i roddi terfyn ar ei fywyd gwerthfawr, cyn iddo gael cyfleusdra i gyflawni ei addewid. Buasai yn dda gan laweroedd drwy siroedd Cymru ei weled a'i glywed, y rhai ni chawsant hyn o fraint erioed; ond yn awr y mae efe wedi ei symud i'r 'wlad well,' am yr hon y pregethai yn Nghymanfa Tresimwn yn y flwyddyn ddiweddaf (1861). Yr oedd arwyddion amlwg arno yn y Gymanfa hon fod y diwedd yn agosâu; ac ni chefais yr un olwg eilwaith ar yr hen bererin duwiol; ond henffych i'r dydd ag yr wyf yn hyderu y cawn gyfarfod mewn gwell teimlad nag y buom erioed ar y ddaear hon.



NEW INN, Rhagfyr 4, 1862.

ANWYL FRAWD,—Llawen genyf ddeall eich bod yn bwriadu parotoi bywgraffiad i'r hybarch Isaac Morgan Harry,