Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r Morfa, Llansantffraid, Mynwy. Y mae efe yn haeddu gwneuthur o honoch hyn iddo, ac nis gallaf feddwl am neb cymhwysach i'r gorchwyl; oblegid eich bod yn byw yn agos iddo, a chael rhai blynyddoedd o adnabyddiaeth o hono. Y mae fy nghalon mewn galarwisg, wrth feddwl, siarad, ac ysgrifenu am dano; a'i gofio fel dyn, brawd, priod, tad, a gwir gyfaill; a phe gwybyddwn holl ieithoedd plant Adda i gyd, mi a'u defnyddiwn i roddi clod i'r gras a'i galwodd, a'i neillduodd, a'i cymhwysodd, a'i arddelodd, a'i llwyddodd, ïe, ac a'i gogoneddodd. Rhyw hen bererin rhyfeddach na'r. cyffredin ydoedd—un da gan bawb, ewyllysiwr da i bawb, ac i bob peth da yn mhob man. Yr wyf yn ofni nas gallaf wneud dim a fydd yn gynorthwy i chwi dynu portrait cywir a chyflawn o hono, er fod yn wir dda genyf gael cynyg i osod careg yn y gofadail a gyfodir iddo. Nid yw ond fel doe genyf gofio y tro cyntaf y gwelais ef yn yr hen gapel yn Heolyfelin, Casnewydd, lle yr oedd yn aelod. Ar ol y cyfarfod, aeth yn ymddyddan rhyngom ein dau, wedi i'r bobl wasgaru oll; ac ni fuom yno yn agos i ddwy awr yn ymddyddan yn wresog â'n gilydd; yn benaf, yn nghylch ein galwad i bregethu yr efengyl. Yr oeddem ein dau yr un brofiad, ac yn cael ein maeddu gan yr un ofnau, rhag ein bod wedi ymaflyd mewn gwaith na pherthynai i ni. Daeth gyda mi y noson hono i̇'m llety, gan ein bod yn ofni fod y drws gartref wedi ei gau. Y mae mwy na deugain o flynyddoedd wedi myned heibio er y noswaith ryfedd hono. Oddiar hyny hyd y diwedd, buom yn gyfeillion mynwesol.

Mi ddymunwn ei goffa—

1. Fel Cristion. Yr oedd yn rhagori ar y cyffredin. Meddyliai pawb a'i adwaenai yn uchel am ei dduwioldeb—nid yn unig crefyddwyr o bob enw, ond hefyd bobl ddigrefydd. Yr oedd pawb yn ungred ac unfarn am dano drwy'r holl wlad. Bu yn byw am flynyddoedd mewn tyddyn bychan, lle yr oedd yn cadw tair neu bedair o wartheg. Perthynai y lle i eglwys Llansantffraid. Gofynai yr offeiriad yn aml i Mr. Harries paham na ddeuai i'r eglwys. "Wel, Syr," meddai yntau, mae ychydig o bobl yn y tŷ cwrdd acw, ac y maent yn dysgwyl i mi fod gyda hwynt, ac yr wyf inau yn hoffi bod gyda hwynt." Gofyn y byddai yr offeiriad drachefn a thrachefn. "Wel," ebai Mr. Harries, o'r diwedd, "mi