Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efe yn sicr o gynhyrfu. Yr wyf yn cofio yn Nghymanfa Caerdydd, pan oedd yr enwog Rowlands, Cwmllynfell, yn pregethu ar anchwiliadwy olud Crist, tòrodd allan mewn bloedd o ddiolch, "Oni buasai ei fod yn anchwiliadwy, buasem wedi ei dreulio allan ys llawer dydd; ond, diolch, anchwiliadwy olud," nes yr oedd yr holl dorf yr un ysbryd ag yntau. Llawer gwaith y clywais ef yn molianu ei Arglwydd yn groyw. Nid oedd ddim cantwr, ni chafodd ddawn canu; ond byddai bob amser yn adrodd y gair fyddai yn cael ei ganu gan y gynulleidfa; ond os nad oedd ganddo ddawn canu, yr oedd ganddo ddawn diolch a molianu mor effeithiol a neb a glywais erioed.

4. Fel pregethwr. Yr oedd weithiau yn isel iawn, nes y y byddid yn ofni nas gallasai ddyfod drwyddi; brydiau ereill yr oedd yn uchel iawn, nes yr oedd yn ddigon i arswydo cnawd i eistedd dan ei weinidogaeth. Yr oedd yn hynod o hoff o'r testun hwnw, "Caned preswylwyr y graig," &c. 1. Y graig. 2. Preswylwyr y graig. 3. Eu dyledswydd,— "Câned preswylwyr y graig;" ac yr oedd yn debyg iawn o gael yr awel wrth son am y graig a'i phreswylwyr, a pheru i'w wrandawyr ganu mewn hwyl nefolaidd, am glywed son am y graig. Ei athrawiaeth a ddefnynai fel gwlaw, a'i ymadrodd a ddiferai fel gwlith. Crist wedi ei groeshoelio oedd testun mawr ei holl bregethau, a'i ddymuniad gwirioneddol oedd am fodd i draethu holl gynghor Duw, heb attal dim o'r pethau buddiol. Canolbwynt ei weinidogaeth oedd pregethu gras Duw i ddynion, yr hwn sydd yn eu dysgu i ymadael ag annuwioldeb a chwantau bydol. Yr oedd yn hoff iawn o osod o flaen ei wrandawyr Grist fel Gwaredwr, cyfoeth ei ras, ei swyddau cyfryngol, y cyfamod tragwyddol, yr Ysbryd Glân a'i weithrediadau, yn nghyd â breintiau'r duwiolion, addewidion y gair, a buddygoliaethau y credinwyr. Rhyfeddais lawer gwaith at ei fedrusrwydd, ac ystyried na chafodd awr o ysgol erioed, hynod mor fedrus ac effeithiol y pregethai yr efengyl ar amserau. Nid oes achos ofni dyweyd mai gwr Duw oedd Mr. Harries, wedi ei alw ganddo at ei waith, a'i wisgo â nerth mawr o'r uchelder. Yr oedd yn debyg i'r hen Simeon, yn ŵr cyfiawn a duwiol, gŵr anwyl gan Dduw a dynion. Puredd a gaed ynddo ger ei fron Ef. 5. Dymunwn ei goffo eto yn y cyfeillachau neillduol. Yr