Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn ŵr mawr, a llawn iawn ynddynt bob amser. Bu genym gyfarfod misol yn y rhan isaf o'r sir hon, pan ag yr oedd Llaneurwg, Morfa, Casnewydd, Machen, Risca, Cwmbran, Elim, Penywaen, New Inn, a Hanover, yn y Cyfundeb ; yr oedd genym gyfeillach yn y boreu, yr ail ddydd, i'r gweinidogion ac aelodau'r lle y byddai y cyfarfod yn cael ei gynal. Nid oedd neb yn fwy ffyddlon na Mr. Harries i ddyfod i'r cyfarfodydd gwresog hyny; ond yn y gyfeillach, weithiau, byddai Mr. Harries yn fwy llewyrchus na neb o honom. Nis gallaf anghofio y gyfeillach a gawsom yn Mynydd Seion, Casnewydd, ar un boreu pan oedd y cyfarfod misol yno. Nid oedd llawer o'r bobl wedi dyfod yn nghyd, gan hyny, aeth y gweinidogion i ddyweyd eu profiadau wrth eu gilydd, ac yn eu plith, dywedodd Mr. Harries air; cymerodd i fyny eiriau Paul, “Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod, a minau a fum farw." "Nis gwn i ddim," meddai, а fuais i farw neu beidio, ond mi wn i mi fod yn glaf iawn, ond mae arnaf ofn yn fynych iawn na fuais i ddim marw; dywedai hyn gyda'r fath ddylanwad a nerth, nes oedd pob un yn y lle yn wylo fel plant, ac yntau ei hun a'i lygaid yn ffynonau o ddagrau. Yr oedd Mr. Ellis, Mynyddislwyn; Mr. Thomas, Tabernacl; a'r anwyl ymadawedig Mr. Griffiths yno yn bresenol, ac yr oedd Mr. Thomas yn diolch ei fod yn mhlith ei frodyr. Un rhyfedd mewn cyfeillach oedd gwrthddrych ein Cofiant, ac O! y golled a gawd ar ei ol.

6. Dymunwn ei goffa hefyd yn ei ymdrech gyda'r ysgol Sul. Yr oedd yn gwerthfawrogi hon yn hynod; ac yr oedd yn ei elfen bob amser wrth son am dani. Yr oedd gyda'r cyntaf ynddi yn ei gapel ei hun, bob Sabboth pan gartref; ac ni chymerai lawer am golli un pryd ysgol; anogai yr aelodau i ddyfod i'r ysgol Sul, ac anogai ereill i anfon eu plant iddi, fel y cawsent eu dysgu i ddarllen Gair Duw, a gweddio drostynt. Mawr oedd ei ofal am y genedl ieuano, ar iddynt gael eu dysgu yn nghyfraith yr Arglwydd. Cyfansoddodd benillion rhagorol i'r Ysgol Sabbothol.[1]

7. Dymunwn ei goffa eto yn ei haelioni at achos Duw. Efe oedd yn dal y pen trymaf i'r baich yn ei eglwys gartref. Yr oedd yn rhoi mwy na neb o'i aelodau; er nad oedd yn cael ond ychydig am eu dysgu yn y ffordd i'r nef. Pan y buasai

  1. Gweler hwynt yn y diwedd.