Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfarfod chwarterol neu Gymanfa yn y lle, yr oedd ef gyda'r blaenaf i gynorthwyo. Efe oedd yn cadw y capel yn lân, ac yn ei wyn—galchu. Efe hefyd oedd yn glanhau y fynwent. Yr oedd ei galon gynhes mor anwyl at achos Duw, fel nad oedd dim yn ormod ganddo i'w wneud. Pan ddodwyd gallery yn y capel yn ddiweddar, rhoddodd fwy na neb arall at hyny, sef saith punt o'i logell ei hun. Y nod amlycaf o gariad at achos crefydd, ac o dduwioldeb yn y galon, yw haelioni at achos crefydd. "Yr hael a ddychymyg haelioni, ac ar haelioni y saif efe." Yr unig wendid oedd yn ymddangos yn yr hen frawd oedd, iddo ddysgu ei bobl i fod yn gul at achos crefydd. Gobeithio y gwnânt ddiwygio ar ol ei golli. Cawsant esiampl dda ganddo ef. Mi ddymunwn i achos Duw fod yn llwyddianus iawn yn y Morfa, a gweddiau yr hen frawd ymadawedig fyddo yn cael eu hateb; ac ysbryd crefydd a ddilyno ei blant, a phlant eu plant, o genedlaeth i genedlaeth, yw dymuniad eich annheilwng frawd,

D. DAVIES.



DOWLAIS, Rhag. 12fed, 1862.



BARCH. SYR,—Yn ol eich cais, wele fi yn anfon yr ychydig linellau canlynol, am fy hen gyfaill hoff ac anwyl, y Parch. I. M. Harries o'r Morfa. Bûm dan ei weinidogaeth am amryw flynyddau; treuliasom lawer awr yn nghyd i ymddyddan am yr achos a'i amgylchiadau yn nghapel ‘Rhagluniaeth.' Gwelsom haf a gauaf, oerni a gwres, gyda chrefydd yn y lle, fel nas gallaf byth ei anghofio. Cawsom gymaint o wenau'r Arglwydd yno, ag a gynaliodd ein gobaith yn y dydd tywyll a niwlog.

Un a meddwl isel iawn am dano ei hun oedd I. M. Harries; byddai bob amser yn dueddol i feddwl yn rhy isel am dano ei hun, ac o herwydd hyny, byddai ei ysbryd yn isel a llwfr yn aml. Pan yr oeddwn yn yr ardal, ymdrechais fyned drwy bob tywydd i'r cyfarfodydd er ei galonogi; ac yr oeddwn yn cael tâl ysbrydol i'm henaid dan ei weinidogaeth.

Yr oedd ef yn un nerthol iawn mewn gweddi. O! mor daer a ffyddiog yr oedd efe yn anerch ei Dad nefol; gallesid meddwl eu bod yn gyfeillion mawr. Yr oedd ei grefydd yn amlwg i bawb, bob amser, ac yn mhob amgylchiad; ni