Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am eich cymeriad; nid oes dim yn well na chymeriad da.” Yr wyf yn cofio ei fod yn dyweyd y dull goreu o bregethu,—"Peidiwch pwyso gormod," meddai, "ar drefn a rheswm, oblegyd y ffordd sicraf i wanhau unrhyw beth, yw pwyso gormod arno; peidiwch trin eich pregeth yn oeredd, rhag iddi droi stymogau y gwrandawyr; gwnewch eich pregethau eich hun. Pan aeth Sian fy widw yn rhy ddiog i ddarllaw, ac i brynu cwrw Bristol, hi gollodd ei chwstwm. Pregethu gwresog sydd oreu, frawd, yn enwedig yn Mynwy a Morganwg." Yr oedd yn myned ryw Sabboth i'r Rhydri i bregethu, ac un cyfaill gydag ef, sef Mr. John French o'r Awst. Ar y ffordd, cyfarfuant â'r offeiriad duwiol hwnw, Mr. Jones o Barry. "I b'le yr wyt ti yn myned, fachgen ?" meddai Mr. Jones. "I Rhydri.' "Beth wnai di â'r bachgen yna gyda thi, ti dòri ei wddf cyn dôd yn ol ?" "Yr ydych chwi yn cael clerk bob Sabboth, ac mae yn iawn i finau gael un heddyw. Fy nymuniad yw am i'r Arglwydd fy ngwneud yn fwy tebyg iddo; a bydded iddo'ch cynnorthwyo chwithau i wneud y Cofiant yn deilwng o'r gwrthddrych.

J. THOMAS.

Carmel, Ion. 12fed, 1863.




CEFNCRIB, Rhag. 24ain, 1862.

ANWYL FRAWD,—Gan eich bod yn myned i gyhoeddi hanes bywyd y diweddar Barch. Isaac Morgan Harry o'r Morfa, arbeda hyny beth trafferth i mi, o herwydd pe na buasai neb arall yn gwneud hyny, buaswn yn cymeryd at y gorchwyl fy hun. Nid oes neb wedi marw yn ddiweddar yn fwy teilwng o hyny nag efe. Dichon fod llawer wedi meirw yn ddiweddar ag oeddent yn fwy dysgedig—yn fwy doniol i blethi geiriau a brawddegau coethedig, yn bereiddiach eu llais, ac yn harddach eu gwedd; ond, Pwy yn fwy gwreiddiol ei feddylddrychau? Pwy yn hawddgarach ei gyfarchiad? Pwy yn fwy ysgrythyrol ei olygiadau? Pwy yn fwy nefolaidd ei feddwl?—yn 'fwy diargyhoedd ei fywyd ? ïe, mewn gair, pwy yn fwy duwiol yn ei holl ymarweddiad? Nid buan y gallaf anghofio ei weddiau taerion a'i bregethau gafaelgar. Yr wyf yn cofio yn burion pa bryd y gwelais ac y clywais ef gyntaf erioed, ar foreu Sabboth, yn Ebenezer, Pontypwl.