Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae oddiar hyny dair blynedd a deugain. Yr oedd yno ddyn ieuanc o athrofa'r Drefnewydd, yn sir Drefaldwyn, lle yr oedd yr Athrofa ag sydd yn Aberhonddi yn bresenol. Yr oedd y dyn ieuanc yn un glân, ac wedi gwisgo yn bert, yn ol fashiwn y dyddiau hyny,—coat a waistcoat ddû, a napkin gwyn, breeches pen—lin o Kerseymere, a top boots eisteddai dan y pulpud; yn fuan, gwelwn ddyn lled dàl, teneu, a salw iawn, yn dyfod i mewn,—coat a waistcoat lâs, napkin brown am ei wddf, quarter boots o ledr cryf am ei draed, rhai hyny yn llawn o hoelion mawrion, breeches a leggings corduroy, safn go lydan, gwallt dû fel y frân yn gorwedd ar ei dalcen, a llygaid treiddgar iawn yn dyweud fod rhywbeth tu cefn iddynt. Dacw ef yn ei flaen at y pulpud, a'r hen bobl yn ysgwyd dwylaw ag ef yn hearty iawn, a minau yn ceisio dyfalu pwy a pheth allasai y dyn fod; ond, dacw'r dyn ieuanc i'r pulpud, ac wedi darllen, canu, a gweddio, dywedodd ei destun, bid siwr, fel pob pregethwr arall, a phregethodd am awr, nes oedd y gynulleidfa rhai yn cysgu, rhai yn gwrando, a rhai mewn tymherau drwg. Yn y diwedd, gwelwn hen ŵr yn codi ar ei draed, ac yn edrych i fyny tua'r areithfa, a chlywir ef yn dywedyd yn lled sarug wrth y gwr ieuanc, "Rhowch hi fyny bellach, i Mr. Harries gael lle; ac yn sicr rhoddodd y gwr ieuanc hi fyny, wedi iddo orphen chwareu ei dôn, fel y bachgen â'i delyn. Dacw Mr. Harries i fyny, a minau yn methu a deall beth oedd y fath un a hwnw yn myned i wneud; ond cefais wybod yn fuan. Dacw ef yn ymaflyd yn ei waith fel un ag oedd yn feistr arno, ac er fy mod yn ieuanc, cefais fy argyhoeddi yn fuan, nad gwisg bert a chadach gwyn oedd yn gwneud i fyny bregethwr. Pregethodd nes oedd y gynulleidfa oll mewn hwyl i "Gadw gwyl i'r Arglwydd." Dyna ddechreu ein hadnabyddiaeth a'n cyfeillach ni a'n gilydd. Llawer cyfeillach felus a gawsom wedi hyny, rhy faith i'w henwi mewn nodyn fel hwn; ond y ddiweddaf oedd ar ei wely angau, pan yn sefyll megys ar drothwy'r nef, yn dysgwyl am genad i ddyfod ac agor y drws iddo fyned i mewn i "lawenydd ei Arglwydd." Pan aethum at ei wely, ymaflais yn ei law, a gofynais pa fodd yr oedd yn teimlo. "Ni wn i yn y byd pwy sydd yna," ebai yntau. "Ceisiwch gofio," ebwn inau. Na wn i," meddai yntau. Yna dywedais fy enw wrtho. Gwaeddodd allan, "O, machgen anwyl i," ac a wasgodd fy llaw â'i ddwylaw yn galed. Bu