Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddyddan lled faith rhyngom y noson hono a thranoeth. Gofynais iddo pa fodd yr oedd yn teimlo gyda golwg ar y mater mawr? "Pob peth yn dda,” meddai yntau; "mae y cyfamod yn sound rhyngwyf a'r Arglwydd ;" ac yna adroddodd eiriau Paul, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd," &c. "Mi a allaf adrodd yr adnod hono gystal a Paul," meddai, “Ac mi wn i bwy y credais," &c. Ni chaniatâ gofod i mi fyned dros yr holl hanes—ond un peth eto. Gofynais iddo, pa un well ganddo fyned adre yn awr, neu aros yma yn hŵy; “O, myned yn awr, oedd yr ateb; ond, os yw fy Nhad nefol am i mi aros rhagor, yr wyf yn foddlawn pregethu ugain mlynedd eto, am un enaid;" ond nid oedd ei Dad am iddo aros dim yn hŵy heb y goron. Yr oedd ei waith wedi ei orphen. Gweithiodd ddiwrnod maith, yn galed a ffyddlon, nos a dydd, y gauaf fel yr haf. Gorphenodd ei yrfa mewn llawenydd, a'r weinidogaeth a roddwyd iddo gan Dduw. Aeth adref yn fuan, wedi i mi ei weled, mewn hwyl i "gadw gwyl i'r Arglwydd." Y mae yno yn awr yn mwynhau tragwyddol Sabboth gyda'r Oen, heb friw, na phoen, na gofid.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

HERBERT DANIEL.





Tongwynlas, Chwefror 25ain, 1863.

ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,—Da genyf gael ar ddeall eich bod yn ymgymeryd â'r gorchwyl o osod mewn cof a chadw, trwy'r argraffwasg, Gofiant o ddyn Duw, sef y Parch. Isaac Morgan Harry, Morfa, swydd Fynwy.

"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig," medd y Beibl. Nid cyfiawnder â'r cyfiawn hwn fuasai gadael ei enw i syrthio i ddinodedd. Cefais adnabyddiaeth helaeth o hono yn yr ysbaid o bum mlynedd ar hugain. Cefais y fantais hefyd o glywed tystiolaethau y rhai a gawsant y fantais o'i adnabod lawer o flynyddau yn flaenorol i hyny. Ni welais ynddo, ac ni chlywais am dano, ddim yn annheilwng o'r dyn, y Cristion, a'r gweinidog da i Iesu Grist. Gellir dyweyd mai un wedi ei wneud ar gyfer ei oes oedd ef—pan oedd nifer y crefyddwyr yn llawer llai, y capeli yn fwy anaml, a