mintai y rhai a bregethent y gair yn llai lluosog, cododd Duw Harries i'r mur; yr oedd yn ddyn cryf, gewynog o gyfansoddiad, fel yr oedd yn gallu gweithio a theithio i bregethu yn fwy na'r rhan amlaf. (Braint yw cael corph da i enaid da breswylio ynddo.) Bu am flynyddau yn cyrchu i Rydri, ac yn gofalu am danynt, pan na allai eu parchedig weinidog, G. Hughes, Groeswen, gan gystudd, ddyfod atynt. Gwnaeth hyny yn ffyddlon. Deuai i fyny o'r Morfa, foreu y Sabboth, naw milldir o ffordd, erbyn deg; pregethai ddwywaith a cherddai adref erbyn chwech, a hyny heb deimlo unrhyw anghyfleusdra; ac mewn modd cyffelyb y gwnaeth â llawer o eglwysi ag oeddynt yn weiniaid. Cof genyf yn adeg yr adfywiad diweddaf, pan oeddym yn derbyn 26 yr un Sabboth, iddo ddyfod i fyny, a hynod y wledd a gafodd wrth weled y gwael yn magu nerth. Gwaeddai allan yn ei hwyl oreu, "Pe na chawswn ddim o'r blaen yma, dyma fwy na digon heddyw o ad-daliad am y llafur i gyd.” Y dydd diweddaf a ddengys pa faint o ymgeledd a roddodd i eglwysi bychain a gweiniaid. Yr oedd yn bregethwr a berchid yn fawr gan y gwahanol enwadau crefyddol, a chan amrywiol raddau cymdeithas. Yr oedd fel meddyliwr yn hollol wreiddiol, a'r un modd y byddai yn traethu. Nid oedd ef fel neb arall, ond yn hollol fel ef ei hun. Enillodd safle uchel yn marn a theimlad ei frodyr yn Mynwy a Morganwg, a'r un modd yn yr amrywiol eglwysi. Nid oedd unrhyw gyfarfod neillduol yn cael edrych arno yn llawn, heb ei fod yn bresenol—ïe, teimlid bod yno ryw ddiffyg yn ei absenoldeb; ond, meddyliwyf mai man cuddiad ei gryfder oedd ei agosrwydd at Dduw, a'i gymdeithas â Duw. Dywedai yn ardderchog dros Dduw wrth ddynion, ond llawer grymusach wrth Dduw dros ddynion. Mynych y gwelwyd cynulleidfaoedd yn foddfa o ddagrau, pan y byddai o flaen y drugareddfa yn dadleu eu hachos. Collodd y byd ddadleuwr mawr gerbron Duw; collodd yr Eglwys Gristion cywir, pregethwr da, a gweinidog rhagorol i Iesu Grist.
Pan ar lan y afon, telais ymweliad ag ef, (mynych y gofynai ar hyd y dydd, a ddaeth y brawd o'r Rhydri). Cefais ef yn ei wely yn wael iawn yr olwg arno. Gofynais pa fodd y teimlai. Atebodd yn ei ddull arferol ei hun, "Dyma lle yr wyf—nis gwn i ba beth, na thros ba cyhyd;