Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond dyna, dyna, fe ŵyr Ef, a'r hyn a wel Ef yn oreu, a'm boddlona inau." Cafodd ddiwrnod hir—gweithiodd yn galed—cyd—ddarfu ei oes a'i wasanaethgarwch—aeth i dangnefedd—gorphwysa yn ei ystafell, hyd foreu y dihuno cyffredinol—heddwch i'w lwch.

Eglwys y Morfa, meddyliwch lawer am eich blaenor, yr hwn a draethodd i chwi air Duw, ffydd yr hwn dilynwch, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad. Wrth ei golli, collasoch gyfaill siriol, trwyadl, a didwyll. Collasoch Gristion a ddygai nodweddau Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Collasoch bregethwr gwreiddiol, eglur, a phwrpasol, —ïe, un lawer gwaith a bortreiadodd Grist Iesu fel wedi ei groeshoelio yn eich plith. Ië, collasoch weinidog llafurus, heddychol—un ag oedd yn esiampl o dduwioldeb. Syrthied deuparth ei ysbryd arnom ninau, fel brodyr sydd yn aros hyd yn hyn.

JOHN JONES, Rhydri.





Abertawy, Chwef. 23ain, 1863.

ANWYL FRAWD,—Mae yn dda genyf eich bod yn cyhoeddi hanes yr hen dad o'r Morfa. Nis gallaf feddwl yn awr am ddim neillduol i'w ysgrifenu am dano. Os gwelwch yr hyn a ganlyn yn werth, rhoddwch ef yn eich hanes.

Yr eiddoch yn serchog,

THOMAS REES.

Fel dyn, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a anadlodd erioed; o ran galluoedd meddyliol, talp o ddiamond heb ei gaboli ydoedd ; o ran ei dduwioldeb, yr oedd yn seraph mewn corph dynol; fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dderbyniol; ond rai prydiau, llwyr amddifadai ei wrandawyr o'u hunan—feddiant ; ac fel gweddiwr cyhoeddus, nid wyf yn cofio i mi erioed glywed neb yn gyffelyb iddo, i gyfodi torf o ddynion i'r nefoedd, o ran teimlad, ac i dynu cafodydd o'r nefoedd i lawr ar ddynion.