Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BARCH. SYR,—Llawenydd nid bychan yw genyf, eich bod wedi ymaflyd yn y gorchwyl o gyfodi cof—golofn ar bapyr ac inc i'r diweddar Barch. I. M. Harries. Byddai yn dda genyf, pe yn bosibl, i gael y golofn yn aur, fel y byddai ei enw i bara yn weledig tra haul yn goleuo. Bum yn aelod yn y Morfa am dair blynedd ar hugain, er fy mod wedi symud i'r Casnewydd er ys saith mlynedd cyn ei farwolaeth. Nis gallaswn feddwl ymadael ag eglwys y Morfa tra yr oedd I. M. Harries yn fyw, ac felly yr oeddwn yn myned yno yn awr ac eilwaith, hyd ei farwolaeth ; ac yr oeddwn yn cael fy nhalu yn dda am fy ngwaith. Wedi i mi golli fy hen gyfaill anwyl a hoff, ymadawais â'r Morfa, ac ymunais ag eglwys Mynydd Seion, yn y dref hon; ond mai cofio am y Morfa, ac am hyawdledd, taerineb, a'r geiriau melusion a ddyferai dros ei wefus, yn peri i mi wylo lawer tro wrth gofio am dano. Dyn oedd I. M. Harries ag oedd yn ddyn dau fyd—dyn y byd hwn a dyn byd arall. Cefais gyfle teg i weled hyny; bu am dair blynedd yn trafod cryn dipyn droswyf o amgylchiadau y byd hwn, ac yr oedd ei ddiwydrwydd a'i onestrwydd yn ei drafodaeth, yn ddigon ar unwaith i mi ffurfio barn am dano, mai dyn dau fyd oedd efe. Yr oedd dipyn o amser cyn ei farwolaeth wedi rhoddi rhyw gymaint o arian i mi i'w cadw, a dywedodd wrthyf ei fod am i mi eu cadw―mai arian oeddynt at ei gladdu; felly, rhoddais yr arian yn y Bank, ac yno yr oeddynt hyd ei farwolaeth, ond fod ychydig o honynt wedi eu cael allan pan oedd ef yn glaf. Yr oeddwn am grybwyll gair fel yna, am fy mod wedi cael ar ddeall fod eglwys y Morfa wedi cael ei beio am na thalodd am gladdu ei gweinidog; ond y gwirionedd yw, nid oedd y bai hwn ar yr eglwys, oblegid yr oedd wedi gwneud ewyllys, ac fe gafodd pobpeth ei wneuthur yn ol ei ewyllys ei hun. A'r arian oedd yn ngweddill wedi ei gladdu, maent wedi eu rhoddi i'r perthynasau, yn ol ei ewyllys. Yn awr, gobeithiwyf y caf weled Cofiant yr hen frawd anwyl cyn hir, yr hyn fydd yn dda gan filoedd yn Mynwy i gael ei bwrcasu. Dymunaf lwyddiant o'm calon i chwi, Syr.

MARY JAMES.