Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar eu nerth a'u heffaith, ond y mae mantais gan y rhai a'i clywsant, oblegid wedi iddynt glywed rhai o'i bethau, cofiant ar unwaith am ei ddull ef o'u dweyd, ac ychwanega hyny lawer at eu gwerth.

Dymunir ar i'r darllenydd gofio mai un Cofiant yw yr holl lyfr; nid wyf, mor bell ag yr wyf yn cofio, wedi ail-ddyweyd yr hyn a ddywedir yn y llythyrau; gan hyny, er cael golwg gyflawn ar Mr. Harries, angenrheidiol yw "bwyta y llyfr" i gyd.

Cafodd eglwys y Morfa golled fawr ar ei ol; ond byddai yn dda iddynt gofio, mai Arglwydd y lluoedd wnaeth y bwlch, ac nad yw ef un amser yn galw neb o'i weision tua thre heb ofalu llanw eu lle yn rhyw ddull neu gilydd. Hyderaf y bydd cariad, tangnefedd, a llwyddiant mawr yn eu plith tra byddo eglwys yn y lle. Dywedai Mr. Harries yn aml, mai cariad brawdol ddylai fod yn chairman yn mhob cyfarfod; ac hyderaf y bydd y gwr boneddig hwn yn y gadair lywyddol yn y Morfa, yn gystal ag yn mhob eglwys arall drwy sir Fynwy a'r byd.

Yr ydym yn dymuno cyflwyno ein diolchgarwch gwresocaf i'r Parchn. J. Mathews, Castellnedd; D. Davies, New Inn; H. Daniel,