Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cefncrib; W. C. Williams, Groeswen; J. Jones, Rhydri; T. Rees, D.D., Abertawy; J. Thomas, Carmel; a Mrs. Hughes, Dowlais. Bu amryw frodyr a chyfeillion ereill yn gryn help i ni hefyd, i'r rhai yr ydym yn teimlo yn wir ddiolchgar.

Ein pwnc mawr ni yn awr yw byw bywyd yr uniawn, fel y byddo ein diwedd ni fel yr eiddo yntau; ac os cawn wneyd felly, ni gawn dragywyddoldeb dedwydd i ddarllen hanes ein bywyd yn y byd cyfnewidiol hwn. Nid yw ef ond wedi ein blaenu am ychydig, byddwn yn fuan iawn wedi teithio'r llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelwn yn ol.

T. L. JONES.

Machen, Chwefror 11, 1863.