Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymdeithas, pryd yr ardystiodd ugeiniau. Cododd llawer garden goch cymedroldeb, ond y rhan fwyaf garden wen llwyrymwrthodiad. Yr oedd sel y swyddogion yn gymaint fel yr enillwyd yr holl aelodau yn fuan yn ddirwestwyr, ac ni dderbynid neb yn aelod heb arwyddo yr ardystiad. Enillodd dirwest y maes yn y gymydogaeth. Yr oedd dau dafarndy yma o'r blaen, un yn Pentrebrunant a'r llall yn Tyllwyd. Ond pan ymadawodd y teulu oedd yn y cyntaf, ni chadwyd ynddo ddiod feddwol byth wedi hyny. Gwnaed ymgais i godi mân dafarnau yn yr ardal wedi hyny, ond yn hollol aflwyddianus. Gwelwyd yr ieuenctyd am beth amser yn tori yr ardystiad, ond yr oedd ymdrech y dirwestwyr yn gymaint, fel yr enillwyd hwynt yn ol yn fuan. Y pryd hwnw yr oedd Mr. Evans, Aberffrwd, yn llywyddu Cyfarfod Daufisol Dosbarth Cynon, a gosodai ar y cynrychiolwyr i gynal cyfarfodydd dirwestol yn eu cartrefi, fel yr enillwyd yr eglwys hon yn llwyr at hyny, trwy fod yma swyddogion loyal i'w dyledswyddau. Pa fodd bynag, gwelwyd amser ar ol hyny, pan gyhoeddid cyfarfod dirwestol, braidd y deuai neb o'r gwrth ddirwestwyr iddo. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd y brodyr gynal cyfarfod ar nos Sabbath, a rhoddi yr athrawon i areithio, os na fyddai pregethwr. Felly y mae y terfyn a osododd y tadau yn cael ei gadw yma o hyd-sef cynal cyfarfodydd, a bod holl aelodau crefyddol yn ddirwestwyr; ac ni chafwyd ond rhyw dri neu bedwar o gwynion am yfed yn ystod y 50 mlynedd Jiweddaf. Nid oes yr un dafarn yn y gymydogaeth chwaith er's 40 mlynedd.

Wedi myned i'r capel newydd, araf fu cynydd yr eglwys yn y blynyddoedd cyntaf. Ond yn 1841, cafwyd diwygiad grymus. Yr hyn fu yn foddion i barotoi meddwl yr eglwys ato oedd haf sych, pryd yr oedd yr anifeiliaid yn methu gan syched, a'r gwaith wedi sefyll o ddiffyg dwfr, fel yr oedd pawb yn edrych yn bryderus ar y dyfodol. Ryw nos Sabbath, yn y ty capel, awgrymodd un o'r brodyr y priodoldeb o gynal cyfarfod ymostyngiad i ofyn am wlaw. Dywedodd un arall fod yn rheitiach cynal cyfarfod gweddi i ofyn