Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymaint y clwyfau a gafodd, ni ddaeth at grefydd ar y pryd; ond daeth ymhen blynyddoedd ar ol hyny, a bu yn frawd defnyddiol, ac yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sabbothol, hyd nes yr aeth i America, lle y gorphenodd ei yrfa.

Cynyddodd y gynulleidfa a'r Ysgol Sul yn rhyfedd ar y pryd, fel yr aeth y capel a'r ty capel yn rhy fychain yw cynwys. Cymerai ieuenctyd ddyddordeb mawr mewn dysgu y Beibl a'i adrodd yn gyhoeddus, a dysgu pynciau a'u hadrodd, a chafwyd cyfarfodydd hynod o lewyrchus gyda hyny yn fynych. Aeth y capel yn anghysurus o lawn, ac adeiladwyd un arall yn 1835, yn 13 llath wrth 10 a dwy droedfedd, ac yn cynwys tua 40 o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth yn 240p., heblaw llafur a gwaith gwirfoddol y trigolion. Casglwyd 150p., erbyn yr agoriad, yr hyn a gymerodd le Mehefin 1836, pryd y pregethodd y Parch. Ebenezer Richards ddwywaith oddiar Exodus xxxiii. 16, a Salm xxvi. 8; David Jenkins, Llanilar, oddiar 1 Tim. iv. 9, a Dr. Edwards, Bala, ddwy waith oddiar 2 Chron. vi. 18, a Mat. xiv. 23. Yr oedd pryder mawr yn rhai o'r brodyr cyn dechreu adeiladu, a phan adawyd dyled o 80p., dywedent na welai neb mo'r capel wedi ei lenwi na thalu am dano; ond mae yr ysgrifenydd yn dyst fod rhai o'r cyfryw wedi ei weled yn fuan yn rhy gyfyng, a thalwyd y ddyled, gyda symiau llawer mwy, mewn 22 mlynedd.

Yn y flwyddyn 1836 hefyd y dewiswyd Mri. David Davies, Nantcwta, a Thomas Oliver, Tynfron, y canwr enwog, yn flaenoriaid. Yr un flwyddyn, hefyd, cynhaliwyd y Cyfarfod Misol hwnw yma, sydd yn hynod fyth fel yr un y dygwyd y Gymdeithas Ddirwestol iddo yn fater ymdriniaeth. Credai Mr. Richard, a rhai swyddogion eraill, yn naioni y symudiad, ac eraill a edrychent arno fel gwegi. Yr oedd traul fawr y pryd hwnw i ddarllaw diodydd ar gyfer y Cyfarfod Misol. Traddododd Mr. Richard bregeth ar ddirwest dranoeth, oddiar Act. xxiv. 25, ac un hynod o effeithiol ydoedd. Cyn diwedd y flwyddyn hon, daeth yr Hybarch Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i sefydlu y