rhai oedd yn gwaeddi, yr oedd gwr ieuanc corffol, o'r enw Joseph Hughes, yr hwn oedd wedi tynu sylw llawer yn y cyfarfod, gan ei fod wedi myned can ddued bron a'r glo wrth atal ei deimladau. O'r diwedd, gwaeddodd gyda nerth rhyfedd, "Fy mywyd i mi,” a dyna y floedd a glywodd y rhai oedd wedi myned allan, a rhai wedi myned chwarter milldir o ffordd. Sonir am yr odfa byth fel yr odfa y gwaeddodd Jo ynddi. Ymunodd rhai ugeiniau â'r eglwys ar ol hyn. Cafwyd odfa ryfedd hefyd pan oedd y Parch. John Williams, Lledrod, mewn hwyl nefolaidd, yn holi plant ieuainc wrth eu derbyn i gymundeb. Holodd hwy yn galed, a dywedodd dan wylo, "Wel, wel, mae y plant yma wedi fy nhrechu yn deg." Gwrthgiliodd llawer ar ol hyn, ond, trwy drugaredd, darfu iddynt ddychwelyd bob yn un ac un, fel mai ychydig o honynt a fu farw ar dir gwrthgiliad.
Cafodd yr eglwys adgyfnerthiad rhyfeddol yn y diwygiad a nodwyd, yn neillduol yn ei chysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Rywbryd yn yr adeg yma, trwy anogaeth y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron, dechreuwyd cynal cyfarfod neillduol, er rhoddi mantais i athrawon ac eraill i roddi cynghorion cyffredinol i ddeiliaid yr ysgol. Mae y cyfarfod hwn yn cael ei gynal bob dau fis yn y lle hwn hyd heddyw, ac y mae wedi bod yn fendithiol iawn. Cofir yma yn dda am un o'r cyfarfodydd, yn yr hwn yr oedd Mr. Richard ei hun yn bresenol, ar nos Sabbath. Yr oedd yno ar y pryd ryw lanc tal, cryf, a gwisgi, tua 18 oed, wedi dyfod o gymydogaeth Ffair Rhos i wasanaethu i'r gymydogaeth hon. Yr oedd yn hynod am ei regfeydd, y rhai oedd yn dispedain trwy y gymydogaeth Sul, gwyl, a gwaith, fel y gwnaeth gynydd mawr ar lygredigaeth yr ardal-gellir dweyd i'r ychwanegiad at annuwioldeb fod yn 50 y cant. Ond rhyfedd yw dirgelwch ffyrdd yr Ior, tynodd rhai o'i gyfoedion ef i'r cyfarfod crybwylledig, yn yr hwn yr oedd y fath ddylanwad, nes oedd y bobl ieuainc yn wylo ac yn gwaeddi trwy yr holl le, ac yn eu plith y llanc hwnw. Yr oedd wedi ei hollol syfrdanu, fel yr aeth adref heb ei het. Ond er