Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beth a ddywedo neb am yr hyn a welais, y Gwr ei hun a welais i." Beth bynag oedd hanfod y weledigaeth, bu yn fendith iddi hi am ei hoes; ac wedi ei hadferu, dangosodd hyny trwy gyflwyno ei hun i bobl yr Arglwydd, a phrofodd am y gweddill o'i gyrfa ei bod yn greadur newydd. Daeth amryw eraill at grefydd yn y misoedd. dyfodol.

Y ffaith arall a fu fel yn ddechreuad i'r diwygiad oedd yr hyn a gymerodd le mewn cyfarfod gweddi ar foreu Sabbath. Yr oedd y cynhyrfiad oedd yn y Cwm yn peri fod cryn gyrchu yma o ardaloedd eraill i'w weled. Yn eu plith yr oedd Shôn, Cwmffrwd, taid y pregethwr nodedig hwnw, Mr. John Jones, Ysbyty, yr hwn a fu farw yn bur ieuanc, yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd. arogl esmwyth yn yr holl gyfarfod gweddi hwnw ; ond wedi i'r gynulleidfa ymwahanu, arosodd rhai ar ol. Ymhlith y rhai hyn, yr oedd yno wraig o gymeriad disglaer iawn mewn crefydd, wedi yfed yn lled helaeth o'r "gwin sydd yn gwneyd i wefusau y rhai fyddai yn cysgu lefaru," ac yn dechreu canu y penill hwnw, Gras, gras, eginyn byw eginyn bras," &c. Yna ymlaen at y penill, "Daeth. trwy, ein Iesu glan a'i farwol glwy," &c. Yr oedd y mawl yn chwyddo bob llinell. Pan yn canu, "Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr," gwaeddodd Shôn Cwmffrwd allan, "Wel, dos i'r môr ynte, Pally Fach." Gyda hyny dechreuodd ef ac amryw eraill orfoleddu. Wedi clywed y swn, daeth llawer o'r rhai a aethant allan yn ol, a dyna olygfa ogoneddus a gawsant, gweled teulu Seion yn gwledda ar ryfeddodau cariad a gras yr Iesu. Yr oedd hyn yn ngwanwyn 1826. Cynyddodd y teimladau crefyddol yn fawr, fel yr oedd dynion yn dyfod i'r cyfarfodydd wedi eu trallodi am eu cyflwr, a'r meibion a'r merched bychain yn dechreu proffwydo. Mewn cyfarfod gweddi arall ar foreu Sabbath, torodd cynwys mawr y cwmwl. Yr oedd yno rai o'r hen famau, a rhai o'r plant ieuainc wedi tori allan i orfoleddu yn ystod y cyfarfod. Ond wedi i lawer fyned allan, clywyd rhyw waedd aruthro!, o eiddo gwrywiaid cryfion, fel y dychwelodd pawb yn ol i'r capel. Ymhlith y