ysgol ar y pryd, yr oedd un nodedig, sef Mr. Thomas Oliver, mab Mr. John Oliver, y blaenor. Yr oedd ef yn meddu ar un o'r lleisiau mwyaf swynol a ddisgynodd ar ein clustiau erioed. Ymgymerodd ef a dysgu elfenau cerddoriaeth, a daeth yn arweinydd galluog. Cafodd Mr. John Howells, tad Mr. William Howells, yr arweinydd presenol, ei fedyddio â'r un ysbryd. Arweiniai T. Oliver y tenor a'r treble, a J. Howells y bass, fel eu gelwid y pryd hwnw. Codwyd dwy oes o gantorion trwy lafur T. Oliver, yn feibion ac yn ferched, nad oedd eu cyffelyb yn yr amgylchoedd yn y dyddiau hyny. Dywedir fod ei gôr yn nechreuad y gwyliau dirwestol yn destyn sylw a son i'r holl wlad. Ymfudodd i America yn 1846, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled fawr.
Dychwelwn, bellach, i roddi hanes adfywiad crefyddol a gymerodd le yn 1825 a 1826. Yr oedd y praidd bychan oedd yma mewn teimlad yr adeg yma am gael genedigion yn Seion. A chymerodd dwy ffaith bur hynod le, y rhai oedd yn rhagflaenu, neu yn ddechreuad y diwygiad hwnw. Y gyntaf ydyw yr hyn a gymerodd le mewn cysylltiad â merch ieuanc, o'r enw Mary Morris, merch i Daniel a Sarah Morris, Galmast, fferm rhwng Pontarfynach a'r Cwm. Dywedir fod ei thad yn berthynas i'r Parch. James Hughes, Llundain. Yr oedd y ferch ieuanc yn ddiarhebol am ei hanystyriaeth a'i balchder. Ond bu digwyddiad hynod yn foddion tröedigaeth iddi. Pan oedd yn myned i Aberystwyth, ar gefn merlen a arferai fod yn ddiareb am ei harafwch a'i diogi, i brynu gwisgoedd ar gyfer rhyw briodas rwysgfawr oedd i fod yn y gymydogaeth, gwelodd y gaseg rywbeth ar le uchel ac eglur a wnaeth iddi dasgu a rhedeg yn ol tua'i chartref, gan adael y ferch ar ol ar ganol y ffordd. Wedi gweled y ferlen heb y farchoges, rhedwyd i chwilio am dani, a chafwyd hi mewn llewyg yn y fan lle cwympodd. Wedi ei dwyn adref, ac iddi ddyfod ati ei hun, gwelwyd fod achos ei chyflwr yn gwasgu arni yn drwm. Galwyd am frodyr i gadw cyfarfod gweddi gyda hi; ac wedi cael ymddiddan ychydig â hi ar ol y cyfarfod, dywedodd yn benderfynol, "Frodyr anwyl, waeth