Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng y Cwm a Rhaiadr, a John Jones, Botcoll, ffermdy yn agos i Mynach. Yr oedd i bob un ei hynodion. Yr oedd gan y cyntaf bum' milldir o ffordd fynyddig i ddyfod i'r capel, eto byddai yno yn brydlon a chyson yn yr holl gyfarfodydd. Yr oedd yn rhaid myned i'r Cyfarfod Misol y pryd hwnw bob mis, er cael cyhoeddiadau pregethwyr am y mis arall; ac er nad oedd ef ond mwnwr tlawd, elai iddynt yn gyson, a hyny mor bell a Thwrgwyn, Penmorfa, a Cheinewydd, ryw 40 milldir o ffordd, a mwy, 80 rhwng myned a dyfod. Ond byddai ei gydweithwyr yn rhoddi ei gyfran iddo yn llawn fel hwythau, o barch i grefydd. Yr oedd J. Jones, hefyd, yn nodedig am fwyneidd-dra ei dymer a'i dduwioldeb amlwg. Bu farw yn ieuanc o'r cancer.

Gwnaeth y Bedyddwyr ymdrech i godi achos yma tua dechreu y ganrif hon, a bu eu henwogion yma yn pregethu ; ond ni ddarfu iddynt fedyddio ond un, Richard Barkley, a gelwir y pwll lle y bedyddiwyd ef hyd heddyw," Pwll Dic Barkley." Tua'r flwyddyn 1843, gwnaeth y Wesleyaid brawf ar y gymydogaeth, gan gael gweinidogion o Ystumtuen, Pontrhydygroes, a Llangurig i gynal cyfarfodydd. Aethant mor bell a thori lle i gapel yn Blaenycwm, mewn man lle codwyd tai anedd wedi hyny, a elwir Nantwatkin. Enillasant o 8 i 10 o aelodau : ond wedi gweled eu bod yn myned i gynal achos, cilio wnaeth y bobl. Felly, lle anffafriol i gynydd pob enwad yw yr ardal hon ond y Methodistiaid, ac y mae ein cyfrifoldeb ni yn fawr oblegid hyny am ei thrigolion.

Wedi codi y capel cyntaf, yr oedd ansawdd caniadaeth y cysegr yn wael iawn. Yr hwn oedd yn arwain gan amlaf oedd un Lewis Thomas, o'r Garallt; ond gan ei fod yn glochydd yn yr Eglwys Newydd, yr oedd yn gorfod ymadael yn fynych cyn y canu ar y diwedd d; ac anffodus fyddai tynged llawer hen benill melus o'r herwydd. Ond y mae angen yn creu darpariaeth. Wedi dioddef llawer, galwyd un Mr. Thomas Edwards, Erwtome, o ardal Aberffrwd, yma i ddysgu yr oes ieuanc i ganu a deall notes, fel y dywedent. Bu yma am un gauaf. Ymhlith y rhai a gyrchent i'r