Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn fflam, a'r gorsen fach i dyfu nes myned yn gedrwydden gref. Rywbryd tua diwedd y ganrif o'r blaen, cymerwyd lle a elwid yr Efailfach, yn mhentref Briwnant, at gael pregethu cyson ynddo, a dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol ynddo tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd odfaon bythgofiadwy yn y lle bychan hwn gan yr hen Ishmael Jones ac eraill. Yr oedd yr hen bregethwr poethlyd hwnw yn adrodd am un odfa hynod pan ddechreuodd un Wil Herbert bach y cyfarfod, ac y tynodd y nefoedd yn gawodydd i lawr.

Mae yn debyg i'r eglwys fechan gael adnewyddiad nerth tua'r flwyddyn 1804, trwy ychwanegiad o amryw benau teuluoedd ieuainc ati, nes iddi fyned i ddweyd, "Cyfyng yw y lle hwn i mi." Y pryd hwnw hefyd y gwnaed y ffordd goach at balas yr Hafod. Codwyd[1] y capel cyntaf yn 1805, yn 30t. wrth 19t., a thŷ capel yr un lled âg ef, ond bychan ei hyd, wrth ei dalcen. Towyd yr adeiladau â llechau. Yr oedd ffenestri i'r capel yn yr ochr, y tucefn i'r pulpud, ac un arall yn y talcen deheuol. Yr oedd iddo ddau o ddrysau, a dwy eisteddle, y rhai a elwid y "côr bach" a'r "côr mawr." Llawr o bridd, a meinciau, rhai a chefn ac eraill hebddo. Yr offerynau oeddynt yn blaenori y pryd hwnw oeddynt, Mr. Abraham Oliver, Ty'nglog, taid y Parchn. David Oliver, Twrgwyn, a'r diweddar Abraham Oliver, Llanddewibrefi, a Mr. Abraham Oliver, y blaenor presenol; Mr. William Herbert, Ty'nffordd; a Mr. Thomas Rees, Bwlchgwallter, a gwyr a gwragedd da eraill oeddynt yn seconds iddynt. Nid oedd yr eglwys eto ond rhyw 30 mewn nifer, er hyny nerthwyd hwy o wendid i gynal yr achos, er fod yno lawer o bregethwyr teithiol yn dyfod heibio, a'r gwaith mwn yn dlawd arno yn fynych. Ond yn y flwyddyn 1820, daeth saith i ymofyn am le yn yr eglwys, o ba rai yr oedd tri yn feibion i'r Abraham Oliver uchod. A gelwir y diwygiad hwnw "Diwygiad y Saith." Rywbryd yn y cyfnod yma y dewiswyd blaenoriaid rheolaidd gyntaf, y rhai oeddynt, Mri. Isaac James, o'r Diluw,

  1. Cyfrifir yr Efailfach yn gapel, ond na chodwyd ef i fod yn gapel, felly hwn oedd y ty cyntaf a godwyd i fod yn dy addoliad.