Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond ychydig o luestai bugeiliaid, a rhyw haner dwsin o ffermydd oni bai am yr alwedigaeth fwnawl.

Ni buasai yr uchod yn werth y papyr a'r inc i'w ysgrifenu oni bai fod rhywbeth gwell i'w ddweyd am yr ardal. Wrth ystyried anwybodaeth y dyddiau gynt, a bod tynu mawr i'r ardal oblegid y gwaith, rhaid ei bod yn ardal hynod am ei llygredigaeth, ei meddwdod, a'i champau annuwiol o bob math. Profir hyn trwy fod gweddillion y rhai hyny wedi bwrw yn rymus ymlaen wedi i oleuni y Diwygiad Methodistaidd dywynu ar y lle, a thrwy ymdrech mawr o eiddo y tadau crefyddol y gyrwyd yr adar nosawl hyny yw llochesau.

Dygwyd pregethu i'r ardal hon drwy offerynoliaeth rhyw wragedd da a arferent fyned i wrando y diwygwyr i Bengwernydd, lle gerllaw gwaith Frongoch, lle yr oedd un Mr. Edward Jones yn byw. Pregethwyd yn gyntaf yn Nghefnyresgair, ffermdy rhwng Cwmystwyth a'r Eglwys Newydd, lle y magwyd yr offeiriad duwiol, y Parch. Thomas Jones, Creaton, yr hwn fu yn llafurio llawer gyda Mr. Charles y Bala, i ffurfio y Feibl Gymdeithas. Yr oedd gwasanaeth crefyddol yn yr Eglwys Newydd, gerllaw yr Hafod, er y flwyddyn 1620, pan godwyd yr eglwys, a bu ynddi rai offeiriaid da yn gwasanaethu. Nid oedd yr achos Methodistaidd yn sefydlog, ond yn myned o dy i dy. Cafodd nodded yn hir gan un Mr. R. Jenkins, Ty'nddol, lle bychan rhwng y Cwm a Blaenycwm, a chan Mr. David Jenkins, ei frawd, yn Gilfachyrhew, yr ochr arall i'r afon Ystwyth. Cedwid y seiat yn Ty'nddol, a phregethid yno yn aml. Bu yma beth erlid ar y cynghorwyr a'r crefyddwyr, ac oblegid hyny, pan fyddai cynghorwr yn dyfod i Ty'nddol, byddai un o'r teulu yn taenu rhyw ddilledyn o liw neillduol ar lwyn neillduol, er rhoddi ar ddeall i'r caredigion fod yno odfa i fod. Yr oedd y lle yn ngolwg y gwaith, a chan fod yr arwydd yn wybyddus i'r cyfeillion, elent i'r odfa pan yn gadael y gwaith. Ond er fod yma gynal moddion am 50 mlynedd, dywedir nad oedd yn niwedd byny ond o 10 i 16 o aelodau; er hyny cadwodd y llin i fygu nes yr aeth