Tudalen:Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES CREFYDD YN NGHWMYSTWYTH.

SAIF yr ardal hon bron yn nherfyn dwyreiniol Sir Aberteifi. Mae Pentre Briwnant, canolbwynt yr ardal, 15 milldir ar y dwyrain o Aberystwyth, 15 i'r gogledd-ddwyrain o Tregaron, 15 i'r deorllewin o Lanidloes, a 15 i'r gogledd-orllewin o Rhaiadr. Ac oblegid ei bod mor ganolog, syniad yr ysgrifenydd yn moreu ei oes oedd, mai Cwmystwyth a Pentre Briwnant oedd canolbwynt y belen ddaearol. Mae yr ardal, er fod llawer o bethau dyddorol yn perthyn iddi, yn bur debyg i'r Lais hono y sonir am dani yn Llyfr y Barnwyr, yn cael ei thori allan o fanteision cymundeb âg ardaloedd eraill, oblegid ei sefyllfa ddaearyddol. Ar y gorllewin cauir hi allan o ardaloedd y sir gan goedwigoedd eang ystad yr Hafoduchryd, ar ein dyfodiad allan o ba rai y mae yr ardal yn ymagor o'n blaen ar ffurf padell, am ryw filldir a haner, ac yn cael ei hamgylchu gan fynyddoedd; yna crynhoa yn gwm cul, a'r afon Ystwyth yn rhedeg drwyddo, a'r brif-ffordd ar hyd yr hon gynt y rhedai y Mail Coach o Aberystwyth i Henffordd, hyd nes myned ryw bum' milldir ymlaen, lle y mae terfyn y sir. Tua milldir a haner o'r Pentre y mae un o hen weithiau mwn plwm, a ystyrir yr hynaf yn y sir, os nid yn Nghymru; gweithir ef, meddant, er's yn agos i 2000 o flynyddoedd. Mae y Graig Fawr, a elwid gan y Saeson Gibraltar Rock, wedi ildio rhyw doraeth o'r mwn o oes i oes, ac yn parhau i roddi. Ni buasai yn yr ardal hon